Tudalen:Dyddgwaith.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TREULIO diwrnod o haf gyda chyfaill yn Ardudwy. Niwl ar fôr a mynydd. Rhyw rith heulwen megis ar wasgar trwyddo, fel y gwelwyd lawer tro yn yr hydref. Mwynder aeddfed yn yr awyr, oni theimlai dyn fel pe daethai adref i'w gynefin o grwydro'n hir. Eto, nid oedd Ardudwy ond rhan o Gymru i mi, nid hen gynefin fy hynafiaid, fel yr oedd hi i'm cyfaill.

Yn y mynydd-dir, na welid mono ond yn aneglur drwy'r niwl a orweddai fel hud ar y wlad, yr oedd cartref gŵr a dorrodd ei enw ar warant dihenyddio brenin. Tua'r môr, cartref yr hen Buritan hwnnw, â dim ond glas onnen yn ei law, a yrrodd ffo ar ddwsin o gabaliriaid a gamdrinodd ei was ar y ffordd am ei fod eto'n gwisgo hen lifrai'r Senedd. Ymhellach fyth, yr eglwys fechan unig yn y tywyn, lle cwsg y bardd a sgrifennodd mor wych-pan anghofiai grefydd wleidyddol ei gyfnod yn Lloegr -Weledigaethau'r Byd ac Angau ac Uffern. A thraw yn y môr, yr ynys fach lle trigai bardd arall, a welodd gynddaredd y tonnau ar ddydd ystorm o'r gorllewin yn torri