Tudalen:Dyddgwaith.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiniwed, oeddynt. Nid tebyg fod neb yn gwybod llawer o'u hanes. Nid oedd ganddynt ddim Cymraeg ond "bore da" a "nos dawch," ac ni wyddent ond ychydig Saesneg, prin ddigon i fod yn ddealladwy i'w cymdogion, pobl heb lawer mwy na hwythau o'r iaith honno. Os dywedech rywbeth wrtho, byddai Edwin yn ail adrodd y geiriau wrtho'i hun cyn ceisio'ch ateb. Nid wyf erbyn hyn yn amau dim nad Indiaid Cochion oeddynt, wedi dyfod ar ddamwain o rywle ac aros yn yr ardal am ysbaid. Pan welais deitl yr ystori, meddyliais ar unwaith am Edwin ac Angelina.

Dyna ddechrau darllen, ac yn fuan iawn, o fod yn hogyn y byddai raid dywedyd wrtho am ddarllen, euthum yn un o'r hogiau y dywedid amdanynt eu bod "a'u trwyn mewn rhyw lyfr o hyd," neu y byddai raid dywedyd wrthynt lawer gwaith bod y cinio'n barod neu ei bod yn amser mynd i'r gwely. Felly bûm innau'n hela yn y coed, yn cysgu allan y nos ac yn ymladd ag Indiaid Cochion. Yr wyf yn cofio hyd heddiw ym mha fan yn union y digwyddai popeth yn yr ystori o'r dechrau i'r diwedd. Breuddwydiais unwaith fy mod wedi tynnu croen pen Edwin