Tudalen:Dyddgwaith.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

druan, a bûm yn euog ac anesmwyth nes ei weled ym mhen deuddydd neu dri a'i wallt gloywddu llaes yn dorch ar ei war, fel arfer.

Aruthr oedd balchter a rhyfeddod y darganfyddiad hwnnw—mwy na balchter medru dywedyd faint fyddai hi o'r gloch ar y cloc. Nid yn unig medru darllen, ond bod y fath bethau i'w darllen; bod pethau'n digwydd mewn llyfrau; bod y rhai fyddai'n ysgrifennu llyfrau yn gwybod ac yn gallu dywedyd wrthych beth y byddai pobl yn ei feddwl, hyd yn oed pan na byddai'r bobl hynny yn siarad, fel y bydd dynion, y naill â'r llall; bod llyfrau'n gallu dywedyd wrthych sut le oedd America, coed ac afonydd, fel y gallech eu gweled yn ymyl eich cartref eich hun, yn union fel y byddent yn y llyfr. Os byddai'r llyfr yn sôn am graig mewn lle na byddai ynddo'r un graig yn eich coed chwi, gallech ddywedyd wrthych eich hunan fod yno graig felly yn union yn y fan honno, a gallech ei gweled yno, er ei bod hi mewn gwirionedd yn digwydd bod filltir oddi yno, mewn lle nad oedd goed o gwbl. Os byddai'r llyfr yn sôn am aderyn yn gwneud sŵn tebyg i'r geiriau "whip-poor-will," gallech glywed y gri honno'n glir, gan aderyn a welsech lawer gwaith.