Tudalen:Dyddgwaith.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Teimlech y gallech fod yn y fan a fynnech, clywed popeth, gweled popeth. Gallech wneud hyn oll pan ddewisech. Nid rhaid i chwi byth fod yn annifyr yn y tŷ pryd na chaech fynd allan. Gallech hyd yn oed weled y cwbl a'ch llygaid yn gaead, pan fyddech yn methu cysgu'r nos. Byddech fel pe baech bawb, fel pe baech ym mhobman, dim ond am eich bod wedi dysgu darllen. Ambell waith, byddech yn dyfod i wybod ystyr geiriau nad oeddych wedi eu clywed na'u gweled o'r blaen, a hynny heb ofyn i neb; a doech i ddeall mai'r un peth oedd meddwl geiriau fel "buaswn yno," a fyddai i'w cael mewn llyfr, a'r geiriau "yr oeddwn i wedi bod yno," fel y byddech yn dywedyd eich hun wrth siarad â rhywun. Rhown lawer am fedru darllen felly eto. Yr wyf yn cofio syndod a balchter teimlo na byddai raid i mi byth mwy, fel y dywedwn y pryd hwnnw, fod yn annifyr.

Cefais achos i newid y farn honno gryn lawer o weithiau wedyn, fel y mae'n ofidus meddwl, a bu raid i mi gytuno fwy nag unwaith â'r gŵr doeth a ddywedodd, "Nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen gormod, blinder yw i'r cnawd." Dim ond y buaswn yn awgrymu'n