Tudalen:Dyddgwaith.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Pan fo pawb yn sôn am lyfr newydd, darllen dithau hen un," meddai rhyw ŵr doeth—ni wn i ddigon i allu ychwanegu ym mha le na pha bryd y ganed ein gwrthrych," na pha beth "oeddynt enwau ei rieni," na hyd yn oed pa goleg y bu ynddo, os bu erioed mewn lle o'r fath, peth amheus, efallai. Gellir casglu ei fod ef, sut bynnag, yn darllen—hen lyfrau. A chryn nifer ohonynt hefyd, os canlynai ei gyngor ef ei hun bob tro y byddai pawb yn sôn am lyfr newydd. Adwaenwn ddyn gynt â chanddo syniadau clir a rhesymol iawn am ddarbodaeth. Addawodd ysgrifennu llyfr ar y pwnc dymunol hwnnw, ond aeth ati i ddarllen llyfrau a sgrifennodd eraill. eisoes ar y pwnc. Nid ysgrifennodd ef byth mo'i lyfr ei hun. Mwy na hynny, nid oes ganddo bellach, meddai ef, ddim dirnadaeth pa fath gyfalaf y dylid galw buwch odro neu fuwch hesb, na pha beth a olygir wrth "werth y bunt," er y gall fynegi'n rhugl pa beth a synio—neu a sonio-pawb arall ar y pwnc. Dyna'r rheswm, y mae'n debyg, pam y gelwir y wybodaeth honno yn eco-nomeg gan Brifysgol Cymru. Clywais am un tramorwr galluog a dysgedig ymhob cyfeiriad, yn ôl y sôn fyddai amdano yn y papurau,