Tudalen:Dyddgwaith.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a sgrifennodd ar y sut i ddarllen. Dechreuais ail obeithio pan glywais am y llyfr hwn, ond barn un gŵr a'i darllenasai eisoes oedd mai'r peth gorau o ddigon oedd cadw pris y llyfr hwnnw at brynu'r llyfrau y byddai raid i chwi eu darllen a'u deall cyn mynd i gynghori neb arall, beth bynnag.

Ni wn i ai gwir hynny, ond dywedodd meddyg wrthyf unwaith ar ei wir yntau mai clefyd yw darllen, ac mai'r unig feddyginiaeth rhagddo yw chwarae golff neu bysgota. Pan awgrymais iddo na ellid gwneuthur y naill na'r llall o'r ddeubeth hynny'n llwyddiannus iawn ond wrth olau dydd, dywedodd yntau wrthyf mai cysgu a ddylai dyn call wedi bo nos. Pan orfu arnaf innau gyfaddef wrtho mai'r unig beth a'm gyrrai'n fynych iawn i gysgu fyddai ceisio darllen pregethau neu fardd oniaeth, neu feirniadaeth lenyddol, dywedodd yntau'n sychlyd nad rhaid i mi byth ddioddef oddi wrth anhunedd.

Y drwg yw bod darllen, megis y mae mygu tybaco, yn beth na ellwch ymwrthod ag ef unwaith y dechreuoch arno. Ac eto, dyn ffodus y cyfrifir dyn heb ddysgu mygu tybaco.