Tudalen:Dyddgwaith.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YN fy hen wlad i gynt, prydydd oedd y term cyffredin am y neb a wnâi englynion neu benillion. Nid wyf yn amau na byddai'r prydyddion yn sôn amdanynt eu hunain fel" beirdd," heb ddychmygu i'r term hwnnw ystyr na pherthyn iddo mewn modd yn y byd, er hynny. Un o'r pethau cyntaf yr wyf yn eu cofio'n dda am brydyddiaeth yw y byddai plant, yn yr ail ysgol y bûm ynddi, yn gorfod darllen prydyddiaeth Saesneg ar osteg, er nad oedd ganddynt un syniad am ei hystyr y rhan amlaf. Y ffordd y gwnaent hynny oedd llusgo'r geiriau allan bob yn un ac un, a'r geiriau hwyaf, yn wir, bob yn llythyren a sillaf, rywbeth yn debyg i'r fel y bydd y dafnau dŵr yn dyfod allan trwy dap pan fo awyr yn y bibell. Credais innau ar y dechrau mai peth i'w ddarllen allan felly oedd prydyddiaeth Saesneg, ac felly y gwnawn am ysbaid. Yn araf deg, dechreuodd y dull hwnnw swnio'n ddigrif yn fy nghlustiau, canys yr oeddwn rywfodd wedi darganfod y gallwn ddarllen prydyddiaeth dipyn yn debycach i leferydd y tap dŵr pryd na bo awyr yn y bibell.