Un diwrnod, pan oedd bachgen bychan tew â golwg sobr iawn arno yn ceisio darllen allan hanes yr hogyn a safai ar fwrdd y llong honno oedd ar dân, wedi i bawb arall ei gadael, aeth yn ddrwg arnaf. Yr oedd y bychan yn ymdrechu'n ddewr. Enwai bob llythyren ar ei phen ei hun, braidd tan ei lais, yna dywedai'r gair neu'r darn gair cystal fyth ag y medrai, ond mewn cywair uwch na chywair y sbelio.
Yn sydyn y tro hwn, cofiais am y sŵn a wnâi Bronten, un o'r ieir gartref, pan fyddai'n clochdar wedi dodwy. Yr oedd sŵn y darllenwr bach yr un ffunud. Chwerddais yn uchel. Edrychodd y meistr yn ffyrnig arnaf, a chefais y gansen ar draws fy mhen. Nid oedd neb, meddai ef, i ddangos cymaint â hynny o ddiffyg dealltwriaeth, yn yr ysgol honno. Mewn gwirionedd, wedi cael pelydryn bach o ddealltwriaeth yr oeddwn—peth prin, yn yr ysgol honno. Yr oedd arnaf awydd dywedyd hynny, ond daeth i'm pen—oedd yn dal i frifo mai doethach i mi dewi, rhag ofn y byddai cael rhywfaint o ddealltwriaeth yn waeth trosedd na bod hebddo, yn yr ysgol honno. Felly cedwais y darganfyddiad i mi fy hun.