Tudalen:Dyddgwaith.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn fy ngwely i feddwl am fy nghyflwr, a dyma hen bennill a gofiais:

"Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon',
Weithie i'r môr ac weithie i'r mynydd,
A dwad gartref yn ddigerydd."

Yr oedd rhyfeddod rhediad geiriau mewn prydyddiaeth hefyd yn cynyddu. Byddai ambell rediad, yn y peth hwn fel mewn eraill, mae'n wir, yn arwain i dolc, a'r glust ar dro yn disgwyl ateb lle ni byddai-ac weithiau'n awgrymu ateb heb fod lawn mor ddifrif ag y buasai weddus. Ond, er gwaethaf yr ysgol honno, daeth darllen pryd yddiaeth yn bleser, hyd yn oed pan fyddid mewn amheuaeth am yr ystyr, os byddai'r rhediad a'r ateb rhwng geiriau a'i gilydd yn plesio'r glust.

Dywedodd rhywun fod yn syn faint y pleser a gaiff rhai pobl o orffen dwy linell â geiriau'n swnio'r un fath â'i gilydd. Rhaid i mi gyfaddef i mi gael llawer o'r pleser hwnnw yn y dyddiau gwirion hynny, ond y drwg fu i mi glywed fy nhad yn dywedyd nad oedd pawb yn cydsynio mai'r cydswnio hwnnw yw prydyddiaeth wedi'r cwbl. Onid oedd gan y glust ryw hawl yn y