mater, paham, tybed, y cymerai prydyddion y drafferth i beri i'w geiriau ateb ei gilydd? Soniais am rediad yn arwain i dolc. Darganfum beth newydd ynglŷn â hynny cyn hir, a thybiais mai'r peth newydd hwnnw oedd prydyddiaeth, efallai, sef nad oedd dolc o gwbl i'm clust i yn yr ateb rhwng diwedd dwy linell o gywydd Deuair Hirion, dyweder. Ni wyddwn i mo'r termau na dim am y rheolau, y pryd hwnnw, ond sylwais fod geiriau fel llwyn a gwanwyn, er enghraifft, yn ateb i'w gilydd, heb i ddyn orfod dywedyd gwan wyn, ac yr oedd hynny rywfodd yn plesio fy nghlust i o'r tro cyntaf y sylwais arno, er na wn i pam hyd y dydd hwn.
Yr oeddwn mewn ysgol arall erbyn hyn, ac nid oedd neb yn darllen prydyddiaeth Saesneg bob yn sillaf yn honno. Er nad oeddis ynddi hithau byth yn sôn am brydyddiaeth Gymraeg, dyma ddarganfod cyn hir nad yr ateb hwnnw ar ddi wedd llinellau oedd yr unig beth pleserus mewn prydyddiaeth Gymraeg, nad oedd i'w gael, hyd y gwyddwn i, mewn prydyddiaeth Saesneg. Nid diwedd llinellau yn unig oedd yn ateb yn Gymraeg yr oedd y geiriau'n clymu â'i gilydd mewn modd rhyfeddol.