Clywswn rai hŷn na mi, wrth sôn am waith Thomas Edwards o'r Nant, neu John Parri, Llanelian, yn dywedyd bod eu penillion hwy "yn clymu"—dyna air ein gwlad ni'r pryd hwnnw—ac o'r diwedd, dechreuais innau glywed y clymau, yn enwedig yng ngherddi John Parri, un y clywswn lawer o sôn amdano, gan mai un a fu gynt yn byw yn yr ardal ydoedd. Dysgu. adnabod y peth wrth y glust wedyn, cyn gwybod dim am y rheolau, a chael allan yn y man mai "cynghanedd" oedd y term dysgedig am y peth a alwai pobl gyffredin yn "gwlwm." Yna, daeth cyfnod o ddotio at gynghanedd, ac o ddarllen hen brydyddiaeth, lle bynnag y ceffid hyd iddi—chwilio am bethau newydd yng nghanol yr hen, am wn i.
Cyfnod rhyfeddol oedd hwnnw, yn ei bryd, er mai prydyddiaeth Saesneg a ddarllenwn yn bennaf erbyn hyn, am reswm da—yr oedd y llyfrau y gellid eu cael yn rhatach ac yn lluosocach. Caech waith Shakespeare am ryw ychydig geiniogau, mewn llythyren na pharai lawer o niwed i'r llygaid, y pryd hwnnw, o leiaf, er ei maned. Gallech hefyd brynu detholiadau o'r prifeirdd Seisnig am ryw hanner coron yr un, ac nid oedd