Tudalen:Dyddgwaith.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nemor flas ar brydyddiaeth gyfamserol Gymraeg erbyn hyn. Aeth yr odl Gymraeg gyffredin (odli: gwegi, er enghraifft) yn beth tila, wrth odlau dwbl rhyfeddol rhywun fel Poe; a chynefinai un yn fuan â mesur heb odl o gwbl, yn Saesneg a'r ychydig Ladin a geid.

Effaith y darllen hwn oedd deall nad oedd y beirniaid ddim yn cytuno mai'r odli a'r clymu oedd prydyddiaeth chwaith. Nid oedd y feirniadaeth y gellid ei galw yn "feirniadaeth-yng-Nghymru" ddim wedi dechrau yn y dyddiau pell hynny, fel nad oedd fodd cael sicrwydd perffaith ar bob peth petrus, unwaith am byth. Eto, yr oedd dadlau yn Gymraeg ar ba beth yw prydyddiaeth, ac yn enwedig ar y mesurau caeth a rhydd. Dywedai rhai nad oedd dim yn brydyddiaeth heb odl. Taerai eraill na welodd Groeg na Rhufain, yn eu dydd, brydydd cystal â Dafydd ap Gwilym. Dyfeisiodd un beirniad beiriant i wneud englyn ion (er bod digon o beiriannau wrthi eisoes). Daliai eraill mai'r clymau oedd yr achos nad "ehedodd" un prydydd o Gymro erioed cyn uched â Milton, heb sôn am Homer. Byddai meddwl am brydyddion yn chedeg yn peri i ddyn ymofyn yn amharchus ai dyma'r rheswm fod