Tudalen:Dyddgwaith.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynifer o'r teulu yng Nghymru yn dewis enwau adar fel" ffugenwau"—Alarch, Dryw, Ehedydd, Eos, Eryr. Byddai rhai'n canmol y "mesur moel" fel y modd cymwys i ehedeg yn uchel a chyfansoddi barddoniaeth ddyrchafedig. Sonnid llawer am arucheledd, beiddgarwch, crebwyll, darfelydd, llawer am y wisg a'r enaid, yn enwedig yr enaid, ond er i rai o'r prydyddion Cymreig ehedeg i'r bydoedd uwch ben, y cwbl a gawsant yno oedd pethau y buasai haws eu cael gartref,— chwedl Ellis Wynne am ddosbarth arall gynt,— yr ymdderu rhwng pleidiau, y gynhadledd genedlaethol a'r areithiau hirion ymfflamychol.

Yr oedd yn digwydd bod yng ngwasanaeth fy nhad y pryd hwnnw wladwr deallus oedd yn medru cannoedd o englynion a phenillion telyn ar dafod leferydd, ac a fyddai bob amser yn cloi ei farn ar bethau digrif a difrif bywyd drwy adrodd englyn neu bennill. Wedi ei glywed yn gwneud. hynny mor daclus a rhesymol un tro, gofynnais iddo pa beth, yn ei feddwl ef, oedd prydyddiaeth.

"Wel," meddai, "ni wn i ddim, os na ddywedech mai ffordd fwy neu lai annaturiol o ddywedyd peth." Teimlo yr oeddwn, erbyn hyn, fod peth synnwyr o leiaf yn ei ddywediad, ond