Tudalen:Dyddgwaith.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan fod rhyw hanner gwên ar ei wyneb, ac iddo orffen y tro hwn trwy ddyfynnu'r geiriau "Nid yw pob peth a blethir o'r un waed a'r awen wir," nid oeddwn nemor haws. Pe buasai ef wedi edrych yn sobr, fel beirniad llenyddol, a llefaru fel dyn ag awdurdod ganddo, 'does wybod yn y byd na wnaethai gryn gymwynas â mi.

Ond yng nghwrs amser, daeth tro ar fyd, pan ddysgais adnabod y "gair llanw" yn well, a cheisio'i ddeall, hyd yn oed yng ngwaith Dafydd ap Gwilym ei hun, a rhai o gyfansoddiadau "arobryn" y cyfnod. Rhaid fu cydymdeimlo wedyn a'r beirniaid, nes mynd i chwilio am brydyddiaeth ar y dragwyddol heol, oedd heb un rheol ar ei chyfyl, meddid. Ond, a chyfaddef y gwir, nid haws oedd deall honno na deall y gair llanw. Pam na fodlonai prydyddion, tybed, ar iaith rydd? Pan ddyellais fod y Groegiaid gynt yn arfer sôn am brydydd fel dyn o'i gof, ni synnais mwy, er synnu eu bod hwythau'n rhoi cymaint o bwys ar fedru ymfflamychu a phendroni'r lliaws wrth areithio. Beth oedd i'w ddywedyd bellach onid mai rhyw fath o garreg ateb oedd odl, nad oedd cynghanedd ond morthwyl sinc (tegan cyffredin yn y cyfnod