Tudalen:Dyddgwaith.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwnnw), ac mai hen ddefod o amseroedd yr anwybodaeth oedd mydr? Naturiol wedi dyfod i'r fan hon oedd teimlo beth yn fodlonach ar y beirniaid, oddi allan ac oddi mewn, a ddysgodd i mi gymaint â hynny o ddoethineb, ond nid oedd fodd dianc cyn hir eto rhag y syniad haerllug mai pennaf gwasanaeth eu llafur hwythau oedd y gallech ddysgu oddi wrthynt res o dermau i brofi eich bod chwithau'n gyfarwydd â phrydyddiaeth gwledydd ac oesau, er nad oedd gennych na'r amser i ddysgu'r ieithoedd na'r moddion i brynu llyfrau'r beirdd yn yr ieithoedd hynny, pe gallasech eu darllen.

Ond try popeth mewn cylch, medd y dysgedigion, ac wedi cryn aros, a throi at ddarllen rhyddiaith a cheisio dysgu ieithoedd, caed bod hynny'n eithaf gwir, pan ddeallwyd fod y beirniaid bellach. yn dechrau darganfod mai peth i'w ddarllen allan a'i glywed oedd prydyddiaeth, hynny yw, bod y sŵn, hyd yn oed pan fo ddiystyr, yn cyfrif, a bod y rhediad (dim ond i chwi yn ddiarwybod ddibrisio Groeg a Chymraeg drwy ei alw yn riddm) yn beth godidog iawn. Taerai rhai beirniaid yn gywrain nad oedd yn y gelfyddyd ddim yn y byd onid chwarae â geiriau, rywbeth