Tudalen:Dyddgwaith.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn debyg, ond odid, i'r fel y bydd rhai dynion. mentrus yn chwarae â chyllyll drwy eu bwrw i'r awyr a'u dal yn glyfar ac yn amserol iawn rhwng eu bysedd fel y dont i lawr, neu fel y bydd eraill yn llyncu cleddyf hyd y carn, neu'n cnoi carth ac yn tynnu rhubanau o bob lliw o'u cegau, gan chwythu mwg allan fel peiriant. Dadleuai eraill. nad rhaid i brydydd ymboeni hyd yn oed i geisio deall ei eiriau ef ei hun, neu o leiaf nad rhaid i neb ond ef eu deall-gallai hyd yn oed ddyfeisio'i eiriau ei hun, neu sbelio rhai benthyg mewn dull mor farbaraidd fel nad hawdd i neb eu hadnabod-gallai felly beidio ag arfer gair a arferodd rhywun o'i flaen, neu osgoi dywedyd mor odiaeth oedd Eden, a ddywedwyd gynifer gwaith cyn ei eni ef. Dôi dyn yn y man hefyd. i wybod bod llunio pedair llinell o" farddoniaeth bur," hyd yn oed o sŵn heb ddim synnwyr,. yn ddigon o waith oes i wir brydydd, ac yn ddigon o wasanaeth ar ei ran i ddynoliaeth ddiwylliedig i roddi iddo hawl i'w fwyd a'i ddiod, ei ddillad a'i gysgod (heb sôn am ei wragedd a disgynyddion ei hen fodrybedd) hyd byth.

Felly y daeth prydyddiaeth yn ei hôl i'r man y cychwynnodd fy niddordeb ynddi, dim ond bod.