Tudalen:Dyddgwaith.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enwau newydd ar y tap dŵr, y garreg ateb, y rhediad, y morthwyl sinc a'r gair llanw. Ac yn araf, gwawriodd y gwir ar y meddwl fod yn rhaid i bawb, wedi'r cwbl, fodloni ar ei chwaeth ef ei hun, fel y bydd y beirniaid yn gwneud, ond na byddant hwy byth yn cydnabod chwaeth neb arall. Y mae byd o brydyddiaeth i'w gael mewn pob math o ieithoedd, pob iaith â'i chelfyddyd ei hun, yn gytûn â'i natur ei hun, nas deall neb yn iawn onid a'i dysgodd yn ei febyd, fel na allai syniadau dyn am brydyddiaeth yn ei chrynswth fod yn ddim amgen na'i ffansi fach ef ei hun, wedi'r helynt i gyd. Ar eich gorau ni allech ond darllen rhai o'r meistriaid tybiedig, a chredu rhywun arall am y lleill, os byddech mor ofergoelus â hynny. Pa les darllen llyfrau lawer ar brydyddiaeth a theimlo wedi'r drafferth i gyd fod beth yn haws i ddyn cyffredin ddeall rhywfaint o'r brydyddiaeth cyn darllen y feirniadaeth nag ar ôl hynny? Ac wedi darllen llawer, byddai'n rhaid i chwi gyfaddef wrthych eich hun, o leiaf, mai'r peth a'ch plesiai neu a'ch blinai a'ch plesiai neu a'ch blinai yn niwedd y ffair, er na wyddech pam, mwy na'r prydydd hwnnw gynt a gyfaddefodd yn ddigon gonest wrth ryw gydnabod iddo: