Tudalen:Eben Fardd (Ab Owen).pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y goedwig dan bwys gwynt

Dacw'r goedwig lom-frigog,
Lle yn fuan y cân côg,
Drwyddi'n clecian gan y gwynt,
Yn gorwedd dan y gyrrwynt;
Y crin-wydd mân yn cronni,
Tua'r llwyn, gwter y lli;
Er hyn i gyd, mae'r hen gainc
Yn gref o flagur ifainc;
Argoel mawr fod gwawr dydd gwell,
Yn hapus, heb fod nepell.


Yr arddwr pylgryf.


Yr arddwr ar dalar deg,
Ni ystyr wynt neu osteg;
Ei fryd maith yw gwaith y gŵys,
O gam i gam, yn gymwys;
Milain yrr ymlaen ei waith,
Gan chwiban uwch ei obaith;
Ei " wedd " gref gerdd yn ddi gryn,
Yn hywaith, bob tenewyn;
Ni ddawr yntau ddewr wyntoedd,
A'i " wedd " o'i flaen yn ddi floedd;
Yn unig rhag un anhap,
'E ddeil â gên ddol ei gap,
I gyd gael gyda'u gilydd
Troed a dwrn at raid y dydd.


Y gwyntyn torri i Wanwyn tawel hinonaidd,
y cawodydd maethlon.


Eto nid gwynt yw'r helynt rheolaidd
Yn y tymor hwn, ond "Taw" morwynaidd,
Anian yn llithro'n Wanwyn llathraidd,
I linell eurog awelon llariaidd,
I foeth ddylanwad cawod faethlonaidd,