Yr ŷm yn cael i Owain ei frawd ac yntau gynnorthwyo eu brawd Cynan tua'r flwyddyn 1272, ac adferu iddo gwmmwd Perfedd, sef y rhan ddwyreiniol o'r ran uchaf o Geredigion. herwydd rhyw amgylchiadau, cawn ei fod ef a'i frodyr, a Rhys Wyndawd, wedi troi o du brenin Lloegr yn fuan ar ol hyny, yn erbyn y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd. Ar ol hyny, daeth Seison lawer i Eneu'r Glyn, pan orfu ar lawer o'r trigolion ffoi i Wynedd. Ar ol hyny, dygwyd y cyfreithiau Seisonig i'r wlad yn groes i ewyllys y trigolion. Yn fuan gwedi hyny, ymosododd Gruffydd ab Meredydd a Rhys ab Maelgwyn ar Aberystwyth, ac a losgasant y dref a'r castell. Ar ol hyny, goresgynodd Rhys ab Maelgwyn gantref Penwedig, a Gruffydd ab Meredydd a oresgynodd gwmmwd Mefenydd. Trodd Gruffydd ar ol hyny o blaid y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd.
GRUFFYDD AB RHYS ydoedd fab yr Arglwydd Rhys. Bu farw ei dad yn y fl. 1196, ac efe a'i dilynodd ar yr orsedd. Yr oedd Maelgwyn aflonydd wedi ei ddietifeddu am wrthryfela yn erbyn ei hybarch dad. Ond Maelgwyn a ymgynghreiriodd â Gwenwynwyn, mab Owain Cyfeiliog, a daethant yn ddisymmwth ar ben Gruffydd yn Aberystwyth; ac wedi lladd llawer o'i wŷr, cymmerasant ef yn garcharor. Gwenwynwyn, yn y flwyddyn 1198, a ymdrechodd helaethu terfynau Cymru i'w maint cyntefig, gan ymosod ar gastell Payn yn Elfael, eiddo Gwilym de Breos ; ond daeth Geoffry Fitzpeter, prifynad Lloegr, yn ei erbyn, ac felly rhyddhawyd Gruffydd o garchar Gwenwynwyn.(1) Ar hyn, Gruffydd a adfeddiannodd ei gyfoeth, oddi eithr dau gastell, sef Aberteifi ac Ystrad Meirig. Addawodd Maelgwyn, trwy Iw, roddi Castell Aberteifi i'w frawd, ond iddo gael gwystlon er diogelwch iddo ei hun; ond cyn gynted ag y derbyniodd y gwystlon, cadarnhaodd y castell iddo ei hun, gan ddanfon y gwystlon at Wenwynwyn. Aeth Maelgwyn wedi hyny i ymosod ar Gastell Dinarth, gan ladd y cyfan o wŷr Gruffydd, y rhai oeddynt yno. Gwerthodd Maelgwyn wedi hyny Gastell Aberteifi