Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(allwedd y Deheudir) i'r Seison, fel na chelai ei frawd mo houo—gweithred felltigedig! Meddat Carnhuanawc, "Dywedir am Ruffydd ab Rhys, mai pendefig o gynneddfau godidog oedd, ac yn debygol o ddwyn y Deheubarth i drefn dda, yn ol cynllun ei dad ; eithr ni chafodd amser i hyn, canys bu farw yn y fl. 1202, er mawr alar idd ei wlad. Claddwyd ef yn anrhydeddus yn Ystrad Fflur. Gadawodd ar ei ol ddau fab, Rhys ac Owain."

(1) Dywed Matth. Paris i Wenwynwyn golli 3070 o'i wyr yn y frwydr hòno.


GRUFFYDD, IFAN, a anwyd yn Nhwrgwyn, plwyf Troed yr Aur, ac yno y treuliodd ei oes, gan ei fod yn berchenog y lle hyfryd hwnw. Yr oedd yn ysgolor da ac yp fardd lled enwog yn ei ddydd. Rywfodd neu gilydd, y mae y rhan fwyaf o'i waith wedi myned i golli. Y mae un gân o'i waith ym Mlodau Dyfed, o'r enw "Carol yr Haf." Mae "Cywydd i'r Iesu o Gynhildeb Wyneb yn Wrthwyneb," o'i waith, yr hwn a argraffwyd yn niwedd Meddyliau Neillduol ar Grefydd, o gyfieithad Iago ab Dewi, yn y flwyddyn 1717, yn waith tra gorchestol. Gellir meddwl wrth y cywydd hwn ei fod yn ddyn tra duwiolfrydig. Cyfansoddodd Siencyn Tomos, Cwmdu, gywydd o farwnad iddo, yr hwn sydd i'w weled ym Mlodau Dyfed. Mae y cywydd hwnw yn dlws iawn, ac yn gosod Ifan Gruffydd allan yn fardd godidog. Cyfansoddodd y Parch. Alban Thomas, Blaenporth, farwnad iddo hefyd, lle y gwelir canmoliaeth uchel iddo. Dechreua mal hyn : —

Wele y gân a'r gil gŵydd,
Wele gŵyn — wyla gwaenydd."

Medd S. Tomos,—

"E brofwyd hwn y'n Brif-fardd,
Dir ei fod yn Gadair Fardd."

GRUFFYDD, RHYS, ydoedd fardd o ran isaf o ganolbarth y sir, ef allai Llandyssul. Yr oedd yn fyw yn 1704. Gwelsom cywyddau o'i waith mewn llawysgrifau.

GRUFFYDD, TOMAS, pendefig uchel a gyfenwid Arglwydd Llanbedr. Rhedai achres ei dadau fel hyn:— Tomas ab Gruffydd ab Ieuan ab Dafydd ab Llewelyn ab Gwilym Llwyd ab Gruffydd Goch ab Rhys ab Rhydderch