ab Cadifor Dinawol ab Gwynn ab Aelaw ab Alser ab Tudwal ab Rhodri Mawr.
GWEITHFOED FAWR, Tywysog Ceredigion, ac Arglwydd Cibwyr, oedd fab Eunydd ab Cadifor ab Peredur Beisrudd. Dywed y Triodd am dano, — "Tri Hualogion Teyrnedd Ynys Prydain: Morgan Mwynfawr, o Forganwg; Elystan Glodrydd, rhwng Gwy a Hafren ; a Gweithfoed Fawr, Brenin Ceredigion, o achos y gwisgynt hualau yn ol y gwnelent brif deyrnedd Ynys Prydain, ac nid taleithiau, sef Coronau."Bu iddo tua deuddeg o blant. Dilynodd Cadifor ef ym mreniniaeth Ceredigion. Disgynai Philip ab Ifor, Arglwydd Isgoed, o hono, yr hwn a briododd Catherin, merch y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd. Hana teulu Gogerddan o hono. Blodeuodd yn yr unfed canrif ar ddeg.
GWENLLIAN. ferch Rhys ab Gruffydd, ydoedd wraig yr enwog Ednyfed Fychan, Penmynydd Mon, o'r hon y deilliodd y Tuduriaid, sef teulu breninol Harri VII. Dywed y Brut fod Gwenllian y rian decaf trwy'r gwledydd.
GWENOG, santes yn y seithfed canrif i'r hon y mae Eglwys Llanwenog wedi ei chyflwyno. Cedwid ei gwyl Ionawr 3.
GWGAN AB MORYDD ydoedd fab Morydd, neu Meirig, Brenin Ceredigion. Boddodd yn yr afon Llychwyr, wrth ymlid y Paganiaid Duon, sef y Daeniaid, yn y flwyddyn 870. Aeth breniniaeth Aberteifi yn etifeddiaeth i'w chwaer Angharad, yr hon oedd yn briod â Rhodri Mawr, Tywysog Gwynedd.
GWRTHELI, neu GARTHELI AB CAW, yn y chwechfed canrif, y sant a sylfaenodd Gapel Gartheli, ym mhlwyf Llanddewi Brefi. Yr oedd y sant hwn yn sefyll yn uchel iawn yn y cynoesoedd.
" Gwyrthfawr fu'r gwr mawr i mi,
Gwyrthiau alarch Gwrtheli."
D. AB IEUAN DDU i D. ab Tomos
o Is Aeron.
GWYNEN, santes, i'r hon y cyflwynwyd Eglwys Llanwnen.