Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HARRIES, JENKIN, gweinidog teithiol gyda'r Bedydd- wyr, oedd enedigol o ardal Glyn Arthen, plwyf Penbryn. Dyn hynod mewn amryw bethau oedd Siencyn Harries. Efe & blanodd achos y Bedyddwyr mewn amryw fanau, megys Cwmdwfr, Llanfihangel Nant Brån, &c. Bu farw yn Aberhonddu, Gorphenaf 9, 1844.

HARRIES, SOLOMON, ydoedd enedigol o ardal Cilgwyn, ym mhlwyf Llangybi. Cafodd ei addysg foreuol, yng nghyd â'i lyfrau, gan y Parch. Philip Pugh. Ymddengys iddo fod dan ofal Morgan Williams pan yn ieuanc, ac wedi hyny iddo dderbyn ei addysg athrofaol yng Nghaerfyrddin. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1751. Bu yn gweinidogaethu yn Abertawy fel gweinidog Presbyteraidd. Cafodd ei benodi yn llywydd yr Athrofa Henadurol yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn 1784; ao efe a symmudodd yr athrofa i Abertawy, a bu farw yn y flwyddyn ganlynol. Dywed y Dr. Rees mai Ariad ydoedd, ac i'r eglwys lle y bu yn gweinidogaethu fyned cyn hir yn Undodiaid. Y mae yn ymddangos ei fod yn wr dysgedig a doniol. Y mae o'n blaen bregeth o'i eiddo, o'r enw “Ystyriaethau o anchwiliadwy Olud Crist, a Gwahoddiad i bawb i'w dderbyn a'i ddefnyddio, mown Pregeth a gyhoeddir ar annogaeth rhai a'i clywsant yn y Cyfarfod o Weinidogion yn Watford, ger llaw Caerffili, Awst 10, 1774. At ba un y chwanegwyd Dwy Hymn, wedi eu troi o'r Seisoneg. Caerfyrddin, argraffwyd gan J. Ross, MDCCLXXIV.” Y mae yn y rhagymadrodd yn mynegu nad oedd yn gyflëus iddo wasanaethu y Cymry yn eu hiaith eu hunain o hyny allan. Cynnwyss y bregeth lawer o sylwadau rhagorol. Y mae hefyd o'n blaen bregeth arall yn y Seisoneg, o'r enw “The Practical Influence of Christianity on Believing Minds, considered in a Discourse on 1 Thessalonians ii. 13. Shrewsbury: Printed by J. Eddowes, 1783 (price 6d).” Y mae y rhagymadrodd yn dwyn y dyddiad o "August 30, 1783," yr hwn oedd wedi cael ei ysgrifenu yn Abertawy. Dywed iddo ei phregethu ar y cyntaf o Fehefin, yng nghynnulliad blynyddol yr Athrofa yng Nghaerfyrddin. Yr ydym wedi darllen y pregethau hyn gyda llawer o ddyddordeb, ac yn barnu wrthynt fod yr awdwr yn ddysgedig a thra duwiolfrydig,