Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol gwasanaethu yno am dro, cafodd ei benodi ar yr 8fed o Awst, 1812, yn ficer y plwyf, gan yr Esgob Burgess. Gyda Llansantffraid, gwasanaethodd Llanrhystud fel curad o dan y Parch R. Evans, ficer Llanbadarn Fawr, am amryw flynyddau. Bu am y ddwy fynedd olaf o'i oes yo ebrwyad Rhyd y Briw. plwyf Llywel, Brycheiniog. Ei briod ydoedd Mari, merch Joseph Price, Ysw., o'r Felindre, Llanfihangel Ystrad. Bu iddynt bump o blant: bu dau farw yn eu babandod. Dygodd ddau o honynt i fyny yn weinidogion ffyddlawn ac enwog yo yr Eglwys Sefydledig. Cafodd William, ei gynfab, ei benodi yn ficer Llansantffraid ar ei farwolaeth, yr hwn sydd yn fyw yn bresennol, ac yn barchus iawn yn ei blwyf a'i wlad, fel offeiriad llafurus a boneddwr llednais. Yr oedd John, ei ail fab, yn ysgolor gwych, ac yn wr ieuanc gobeithiol a duwiol. Cafodd ei urddo yn y wlad hon tua'r blynyddoedd 1827–8, ac aeth allan yn genadwr i Ogledd America. Cafodd ei benodi yo athraw cynnorthwyol yng Ngholeg Keynon, Ohio. Adeiladwyd Eglwys newydd wech iddo yno, ac ymddangosai tebygolrwydd o oes ddefnyddiol o'i flaen; ond er galar, pan yr oedd y pren afalau yng ngogoniant ei flodau, cafodd ei dori lawr gan fwyell finiog angeu. Bu farw yn 1830. Claddwyd ef yng nghladdfa y capel, a chludid ei gorff i'r bedd gan efrydwyr y coleg, yn cael eu blaenori gan Dr. Chuso, Esgob Ohio. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan yr esgob, a phregethodd bregeth angladdol y Sul canlynol, ar y testyn "Yng nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu.” Priododd ei unig ferch â'r offeiriad enwog, y Parch D. Parry, ficer Dyfynog. Dywedir fod Mr. Herbert yn ddyn duwiol iawn, yn dduwinydd dwfn, yn bregethwr doniol a phoblogaidd, ym mlaen ar y rhan fwyaf o'i gydoeswyr. Yr oedd cael ei glywed yn wledd i bawb, ym mhell ac yn agos. Bu farw Rhagfyr 5, 1835, yn 73 mlwydd oed.

HOWEL, MORGAN, ydoedd enedigol o Bettws Bledrws. Yr oedd yn ddyn o gryn gyfoeth. Daeth i chwareu pel droed i gae lle yr oedd Walter Cradoc yn pregethu, a hyny er mwyu ei rwystro. Cyfarfu ag anffawd ar y pryd, sef yssigo ei glin, ac felly gorfu arno aros yn y cae; ac ar y pryd,