Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedir i'r gwirionedd ymaflyd yn ei galon. Daeth wedi hyny yn bregethwr yn y Cilgwyn, Caeronen, a Chrug y Maen. Bu farw cyn diwedd y 17fed canrif. Yr oedd yn bregethwr yn amser Cromwel.(1)

(1) Dyma enwau y rhai a gawsant drwydded i bregethu yn y parthau hyn yn amser y “Declaration of Indulgency" yn 1672. “May 8 License for James Davies at his own house in Cardigan, and at the house of John Jones, Cenarth, Carmarthenshire.” Eto, "Jenkin Jones at his own house in Cilgeran. October 28, License to Morgan Howel to be a congregational teacher at the house or John Jones, Llanbadarn Odwyn.” Eto, " D. Jones at Pencareg; David Jones to be a teacher at his own house, Llanddewi Brefi; Evan Hughes at the house of David Hughes, Cellan. Licence of houses, 1672. October 28, house of widow Gwyn, town of Cardigan; house of Phillip David of Dechwede [Dyhewyd, tebyg]; house of David Rees, Llarfairhelygen, Cardigan; house of Evan David, Llanbadarn, Cardigan.” Clywsom mai un o deidiau y Parch. D. Hugbes, Nantgeredig, oedd D. Hughes, Cellan, ond nis gallwn brofi. Preswyliai Morgan Howel yn Nhregaron: Llwyn Rhys oedd y ty lle y pregethai.


HUGHES, DAVID, A.C., a aned yn Talsarn, Glan Aeron. Derbyniodd ei ddysg ar y cyntaf yn Ystrad Meirig, ac wedi hyny yng Nghaerfyrddin, ac yr oedd ei gynnydd yn fuwr. Aeth i Rydychain, a daeth ym mlaen mor odidog, fel y cafodd ei benodi yn un o arholwyr yr ymgeiswyr am raddau. Daeth i sylw mawr gyda Dr. Cleaver, ar y pryd yn benrhaith yn un o golegau y Brifysgol, ac wedi hyny Esgob Bangor. Cafodd ei benodi i arolygu argraffiad o'r Beibl Cymreig a argreffid yn Rhydychain. Cafodd fywoliaeth Hirnant, ac wedi hyny fywoliaeth Llanfyllin. Yr oedd yn ysgolor dwfn, yn dduwinydd rhagorol, a phregethwr a gweithiwr godidog yn y weinidogaeth. Ei olwg oedd fawreddog a pharchus, a'i gymdeithas oedd ddyddorol a boddhaol. Cyhoeddodd un "Bregeth Ymweliadol.” Yr oedd yn gefnogwr gwresog i'r Beibl Gymdeithas. Bu farw yn y flwyddyn 1865.

HUGHES, Evan, oedd offeiriad yn Llandyfriog. Yr oedd yn enedigol o rywle o'r sir hon. Cafodd ei urddo gan yr Henaduriaid. Dywedir ei fod yn bregethwr goleu a grymus. Dywedir iddo gyfarfod â llawer o rwystrau ar ei daith weinidogaethol. Sonir am dano yn y flwyddyn 1694, fel “Henwriad athrawiaethol" yn y Cilgwyn a Chaeronen.