maintioli a phwysigrwydd. Wrth wneuthur hyny, gofalodd am ddigon o le i'r tlodion tu fewn i'w muriau. Yn y fl. 1833, daeth ficeriaeth y fam-eglwys (Llanbadarn Fawr) yn rhydd, i'r hon y penodwyd ef gan y diweddar Esgob Jenkinson. Yn fuan wedi hyny, penodwyd ef gan yr un esgob i gadair Eglwys Brebendaraidd Aberhonddu. Ar ol marwolaeth yr Archddiacon, cafwyd llythyr ym mysg ei bapyrau, oddi wrth yr esgob duwiol hwnw, ym mha un y cymhellai ei Arglwyddiaeth Mr. Hughes i beidio llafario tu hwnt i'w allu, i'r hyn y temtid ef yn aml trwy wneuthur llawn brawf o'i weinidogaeth. O'r flwyddyn 1833 hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le Tachwedd 1, 1860, pan yn 73 mlwydd oed, daliodd Mr. Hughes y fameglwys fel ficer, yng nghyd â'r berigloriaeth yn y dref. Tua dechreu y flwyddyn 1859, penododd esgob presennol Ty Ddewi ef yn Archddiacon Ceredigion. O fewn y flwyddyn hòno, ymwelodd a phedwar ugain o blwyfi o fewn ei archddiaconiaeth yng Ngheredigion a pharthau uchaf sir Benfro, gan bregethu mewn amryw o honynt, a hyny heb fod ragor nag un Sul oddi wrth ei gynnulleidfaoedd ei hun. Pregethu yr Efengyl ydoedd bwyd a diod y gweinidog rhagorol hwn. Ar farwolaeth y diweddar Barch. Wm. Howells, Long Acre, Llundain, gwnaed pob ymdrech i'w ddarbwyllo i fod yn ganlyniedydd iddo; ond gommeddodd, gan ei fod mor hoff o'i gydgenedl a phobl ei ofal. At hyn gellirf ychwanegu ei fod yn ganon mygedawl yn Nhy Ddewi, profydd ewyllysiau cymmyn, a deon gwladol y ddeoniaeth yr oedd yn byw ynddi. Bu yn briod ddwywaith y tro cyntaf & Jane, merch Mr. Foulks, Glan y Wern, Llandrillo yn Rhos; ac wedi hyny â Lowri Ann, merch W. Poole, Ysw., a gadawodd deulu o'r ddwy. Heb law ei fod yn bregethwr doniol, yr oedd hefyd yn fardd da iawn, ac yn awdwr amryw lyfrau mewn rhyddiaith. Cyhoeddodd y gweithiau canlynol yn Gymraeg :- 1. Pregeth, pan oedd yn gurad Llandrillo yn Rhos. 2. Casgliad o 14 o Bregethau yn 1829. 3. Cyfieithad o Fyfyrdod yr Esgob Hall ar y Testament Newydd. Cyhoeddodd hefyd yn Seisoneg 1. The Domestic Ruler's Monitor; being a Sermon on the much-neglected duty of Family Prayer; preached at the
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/110
Gwedd