Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parish Church of Foleshill, on the 11th of Jan., 1821. 2. Pastoral Valediction; being Two Farewell Sermons; preached at Foleshill, 1822. 3. A Visitation Sermon; preached at Cardigan, before Dr. Jenkinson, Bishop of St. David's, in 1832. 4. Esther and her People; being a Practical Exposition of the incidents in the book bearing that name, 1832. 5. A Sermon; preached at St. Michael's Church, Aberystwyth, being the day of the Coronation of Her Majesty, June 28th, 1838. 6. Ruth and her Kindred; being a delineation and practical improvement of the various incidents which befell them, 1839. 7. Three Volumes of Sermons; published at different times. 8. The Self-searcher; or brief remarks on self-examination, 1848. 9. A collection of Psalms and Hymns, for the use of St. Michael's Church, Aberystwyth. 10. The Heathen's Appeal.

HUGHES, MORGAN, a aned yn Llwynmalis, ger Ystrad Meirig. Cafodd ei ddwyn i fyny o dan y Parch J. Williams, yn Ystrad Meirig. Symmudodd i Loegr pan yn 16 mlwydd oed; ac ennillodd yr ail ddosbarth yn Ysgol anrhydeddus yr Amwythig, dan olygiaeth Dr. Butler. Aeth oddi yno i Cheswick, dan Dr. Horn. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1807, yn gurad yn Lledrod & Chwnnws. Aeth yn ol i Loegr, lle y bu yn gwasanaethu amryw Eglwysi. Oherwydd anfoddlonrwydd ei fam, gwrthododd gynnyg taer i fyned yn gapelydd ar fwrdd llong rhyfel. Cafodd gynnyg ar fywoliaeth dda yn esgobaeth Armagh; ond o herwydd yr un rheswm, efe a'i gwrthododd. Cafodd ei benodi yn gapelydd St. George's Hospital, Hyde Park, lle y bu dros 21 o flynyddau. Ar ddyfodiad Dr. Carey i esgobaeth Llanelwy, efe a gafodd fywoliaeth Corwen, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Bu farw yn Hydref, 1866, yn 82 mlwydd oed tra yn Llundain, yr oedd yn dad cariadus a galluog i holl fechgyn Cymru a fyddent yn galw wrth ei ddrws. Ni fu dyn erioed yn cael ei barchu yn fwy.

HUGHES, WILLIAM, oedd fab ieuengaf Mr. W. Hughes, Pant y Ddafad, Llanilar, yr hwn oedd berchen ar lawer o diroedd yn y parthau hyny. Yr un Hughes oedd y teulu a Hughes, Hendre Felen. Cafodd ei addysgu yn Ystrad