Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddynion callaf y wlad; ac yn gymmysg a'i gallineb, caed hynawsedd dynol a Christionogol. Perchid ac anwylid ef gan bawb. Claddwyd ef ym Mynwent Llanarth. Yr oedd ei angladd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y wlad. Brawd iddo yw y Parch. J. Hughes, periglor Penbryn.

HUGHES, WILLIAM GREY, Rheithor Mathri, swydd Benfro. Cafodd ei eni yn y Sychbant, plwyf Nantcwnlle, Awst 5, 1792. Yr oedd yn fab i'r Parch John Hughes, Llanddeiniol a Nantcwnlle. Yr oedd ei fam yn ferch i'r Parch. Thomas Grey, gweinidog Aber Meirig. Bu yn gweithio gartref ar y tyddyn nes oedd yn 17 oed; ac wedyn aeth i'r ysgol i Bettws Lleucu, dan ofal Mr. R Richards. Bu yno am ryw amser yn dysgu gramadeg a phethau ereill; a chyn bir, symmudodd i Ysgol Ramadegol Llanbedr, pryd hyny o dan ofal y Parch. Eliezer Williams, ficer y plwyf, a mab i'r enwog Peter Williams. Treuliodd yno tua phum mlynedd, lle yr ennillodd iddo ei hun air da gan bawb am ei fuchedd dda a'i ddiwydrwydd efrydol. Arferai ddarllen rhanau helaeth o'r Beibl bob dydd. Ar ol gorphen ei amser yn yr athrofa, dechreuai edrych allan am guradiaeth; pan y clywodd fod eisieu curad ar y Parch. Mr. Pugh, periglor Trefdraeth, swydd Benfro, aeth ar daith yno, gan alw heibio i'r hen offeiriad duwiol, y Parch. D. Jones, periglor Llandudoch. Aeth dranoeth i Drefdraeth. Yr hen beriglor, er mwyn deall ei gymhwysder, a'i rhoddodd i ddarllen a gweddio yn y teulu; ac yn hyny efe a'i hoffodd yn fawr, canys gwr mawr oedd mewn gweddi. Cafodd ei urddo gan yr Esgob Burgess, i guradiaeth Trefdraeth, yn y flwyddyn 1815. Gwasanaethodd Drefdraeth a Threwyddel fel curad am saith mlynedd. Yn Eglwys Cilcenin y traddododd ei bregeth gyntaf, lle yr oedd tyrfa fawr yn ei wrando; a dywedir i'r dorf dori allan mewn sain cân a moliant o dan ei bregeth effeithiol. Arferai rhai hen bobl ddarogan ar y pryd, na fyddai yn hirhoedlog, yr hyn a drodd allan yn wirionedd, gan mai naw mlynedd a welodd o oes ar ol hyny. Cafodd ficeriaeth Llandyssul gan y Dr. Burgess, yn y flwyddyn 1819. Nid aeth yno i breswylio; ond daliodd i wasanaethu Trefdraeth fel curad am dair neu bedair blynedd tra y daliai hòno. Tra yn ficer Llandysul,