Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhoddodd hawl curad i wr ieuanc, a ddaeth wedi hyny yn dra enwog fel pregethwr, ac o fuchedd dduwiol a llafurus, sef y Parch. Enoch James, yr hwn a gafodd y ficeriaeth pan y rhoddodd efe hi i fyny yn y flwyddyn 1822. Yng Ngorphenaf, yr un flwyddyn, rhoddodd yr esgob iddo bersoniaeth Mathri; ac ar yr un pryd gwnaeth ef yn ddeon gwladol. Dywedir iddo gael llythyr y pryd hyny oddi wrth yr esgob, yr hwn a gadwodd yn ei god tra fu byw. Ymadawodd & Threfdraeth pan gafodd ei benodi i fywoliaeth Mathri. Cymmerodd dy yn Wdig, ger Abergwaen, gan fwriadu priodi boneddiges o deulu uchel, yr hon oedd enwog am ei nodwedd grefyddol; ond nid felly oedd trefn y def. Yr oedd ei iechyd yn dadfeilio yn gyflym. Pan ddeallodd nas gallasai wneyd dim yn rhagor, symmudodd at ei hen gyfaill, y Parch. Mr. Jones, Llandudoch, gan ddywedyd, "Mr. Jones, yr wyf yn dyfod yma i farw, i'r un gwely ag y cysgais gyntaf erioed yn sir Benfro." Bu yn gwaelu am amryw fisoedd, a gorphenodd ei yrfa ar y 17fed o Fawrth, 1824, yn 32 mlwydd oed. Pan yn ei oriau olaf, yr oedd ei ffydd yn rhyfeddol o gadarn, ac yr oedd ei ddiwedd yn orfoleddus. Cludwyd ei gorff i'w gladdu ym mynwent Nantcwnlle. Parhëir i siarad yn barchus am dano yr ardaloedd Trefdraeth, Llandudoch, Aberteifi, a'r Mwnt hyd heddyw. Byddai yn arfer dyfod i bregethu yn aml i'r Mwnt. Dywedir ei fod yn pregethu yno ar un boreu Sul pan oedd y tywydd yn rhewllyd a llym, ac iddo chwysu yn ddirfawr; ac ychwanegir gan hen bobl ar ardal, taw pryd hyny y dechreuodd y darfodedigaeth ymaflyd ynddo; ond nid yw hyny yn sicr, gan ei fod yn arfer chwysu yn fynych, ac felly yn agored i oerfel. Dywedir ei fod yn meddu ar lawer o ddiniweidrydd y golomen, ac nad oedd chwaith yn amddifad o ryw fesur o gallineb y sarff. Yr oedd yn hollol ymroddedig i'r weinidogaeth. Fel pregethwr ac areithiwr, yr oedd ym mlaenaf o holl enwogion Cymru yn ei oes. Mab y daran oedd, yn llawn tân a lluched; a'r elfenau rhyfeddol hyn yn cael eu hynodi gan ddarfelydd, barn, a duwioldeb.

HYWEL AB DAFYDD AB GRONW oedd bendefig yn y pymthegfed canrif, yn preswylio yng Ngwernant,