Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plwyf Troed yr Aur. Yr oedd yn wyr i Rys Chwith, ac yr oedd yn hanu o arglwyddi Llangathen. Y mae yr achlyfrau yn mynegu iddo ef, neu yn hytrach un o'i deidiau, ladd Salinder Fawr y Ffranc, ac iddo gymmeryd ei arfbeisiau. Mae gan Lewis Glyn Cothi gywydd o ganmoliaeth iddo fel rhyfelwr a gwr haelionus. Y mae ganddo hefyd gywydd ar ei farwolaeth. Ei wraig oedd Agnes Perrot. Yr oedd un o'r teulu hwn, o'r enw David Price, M.A., yn y Bettws Ifan, yn y flwyddyn 1601.

HYWEL AB RHYS, neu HYWEL SAIS, ydoedd fab Rhys ab Gruffydd, Tywysog y Deheudir. Gelwid ef yn Hywel Sais am iddo fod am amser yn Lloegr yn wystl yr heddwch dros ei dad. Yr oedd yn rhyfelwr dewr, a chymmerodd ran bwysig yn helyntion ei wlad. Priododd Tanglwst, ei ferch, ag Ifor ab Bledri ab Cadifor Fawr. Llywelyn, eu gorwyr, oedd tad yr enwog Ifor Hael, a Morgan, sylfaenydd teulu Tredegar. Yr oedd y prif-fardd Dafydd ab Gwilym yn ysgynydd i Hywel ab Rhys.

HYWEL CERI, un o feirdd yr unfed canrif ar bymtheg. Y mae tebygolrwydd ei fod yn preswylio ar lan Ceri, nid pell o Emlyn.

HYWEL MOETHAU AB RHYS AB DAFYDD AB RHYS AB DAFYDD MOETHAU AB GRUFFYDD FOEL a breswyliai yng Nghastell Odwyn, ger Llangeitho. Nid yw yn hollol eglur pa un ai ffordd Gymreig o Mathew yw Moethau, neu ynte fod yr enw wedi ei roddi iddynt o herwydd eu bod yn byw yn foethus, fel Llywelyn Foethus, Arglwydd Llangathen. Yr oedd Hywel yn arwyddfardd enwog, ac yn meddu un o lyfrgelloedd enwocaf y wlad. Bu â llaw yn olrheiniad achau Gwilym Herbert, Iarll Penfro, ar gais Iorwerth IV. Priododd merch iddo & John Cradoc o Newton, Arglwydd Prif Ynad Lloegr. Un o'r teulu ydoedd Thomas Jones (neu Moethau), o Dregaron.

IDNERTH ydoedd yr esgob olaf yn Llanbadarn Fawr. Dywedir taw ei lofruddio a gafodd. Meddyliai E Llwyd fod ei gof-faen ym mynwent Llanddewi Brefi, ac arni y corfyn a ganlyn:-