Iolo. Ymdrecha rhai o feirdd Morganwg ei hawlio; ond nid teg hyny - y mae mor oleu a'r haul taw Ceredigwr oedd. Yr oedd hefyd yn achofydd. Rhoddodd Iorwerth IV. wŷs i arwyddfeirdd henaf Cymru i olrhain achau Iarll Penfro, ac enw Rhydderch ab Ieuan Llwyd sydd ym mlaenaf o'r pedwar. Dywedir fod llyfr Seisonig o'i waith, ond ni welsom mo hono.
IEUAN GWYNIONYDD oedd fardd enwog o ran isaf canolbarth y sir. Blodeuodd rhwng 1570 a 1600. Y mae y rhan fwyaf o'i waith mewn llawysgrifau. IEUAN ILAR oedd fardd enwog o blwyf Llapilar. Blodeuodd rhwng y blynyddoedd 1560 a 1590.
IEUAN LLWYD AB IEUAN AB GRUFFYDD FOEL AB CADIFOR AB GWEITH FOED FAWR oedd bendefig dylanwadol a breswyliai yng Ngogerddan a Glyn Aeron. Y mae tair awdl iddo yn yr Archaiology of Wales. Dywed Casnodyn fod ei lys "ger llaw Llan rymusaf goethaf Geithaw." Safai yr hen lys ar fin yr Aeron, yn ymyl Llangeitho. Yr oedd gan Ieuan fab o'r enw Rhydderch Llwyd. Y mae gan Dafydd ab Gwilym farwnad i Rydderch; ac y mae gan Dafis, Castell Hywel, gyfieithad o honi yn ei Delyn Dewi. Mam Ieuan Llwyd oedd Elliw, ferch Meredydd ab Cadwgan Fantach ab Llywelyn ab Gruffydd o Gartheli. Yr oedd mam Meredydd, sef nain Ieuan, yn ferch i Meredydd ab Owain ab Gruffydd ab yr Arglwydd Rhys, ac felly yn chwaer Cynan ab Meredydd ag ydym wedi grybwyll yn barod. Gwraig Ieuan ydoedd Angharad Hael, ferch Rhisiart ab Einion. Priododd Rhydd- erch, ei fab, ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Angharad o'r Cantref; ei ail wraig oedd Mawd, ferch W. Clement. Preswyliai Rhydderch ym Mharc Rhydderch a Gogerddan. Deilliai y Llwydiaid hyn o Ruffydd Foel; ac felly hefyd Gruffydd Hir o Lanfair. Y mae Llwydiaid y Glyn & Hiriaid Gogoian" ar lafar gwlad hyd heddyw. Buont yn dra lluosog ac enwog. Mae hen deulu Gogerddan o honynt. Yr oedd Deio ab Ieuan Ddu yn son fod Dyffryn Aeron yn llawn o lin Ieuan Llwyd, a'i fod yn cael groesaw mawr ganddynt pan yn clera. Bu cangen o honynt yng Nghefn Brechfa; ac aeth y teulu hwnw yn “Llwyd Gwyn."