Quod nihi Ceretica tellus sit patria certe,"
a'i fod yn hanu o genedl glodfawr y Brython, yr hon gynt a wrthladdodd yn wrol fyddinoedd y Rhufeiniaid, pan ddarfu i Iulius Caisar droi ei gefn yn fföedig.
Atqui famosa natus sum gente Britorum
Romanae quondam classi cum viribus obstat
Iulus cum Caesar refugus post terga recessit.
Mynega fod ei dad Sulgenus yn deillio oddi wrth rieni pendefigol a doethion :-
“Ortus hinc Sulgenus adest, jam germine claro
Nobilium semper sapientum jure parentum," &c.;
ac hefyd fod gan ei dad bedwar o feibion, y rhai a ddygodd efe i fyny mewn dysg offeiriadol: eu henwau oedd Rhyddmarch Ddoeth, Arthyen, Daniel, ac Ioan, y prydydd ei hun.
“Quatuor ac proprio nutrivit sanguine natos,
Quos simul edocuit dulci libaminis amne,
Ingenio claros (jam sunt haec nomina quaeque;
Rycymarch sapiens, Arthyen, Daniel, que Iohannes)."
Er fod gweddillion llenyddol. y gwr enwog hwn yn ychydig, eto mae yr ychydig hyny yn dra gwerthfawr. Dengys sefyllfa dysgeidiaeth yn y wlad, yn gystal a pheth oedd teimladau cenedlaethol y Cymry ar y pryd. Yr ym yn gweled llawer o'r Cymry presennol yn ymdrechu cael gafael yn rhywle ar ychydig o waed Sacsonaidd, neu Normanaidd, yn eu gwythienau; ond yr oedd yr ysgolor hwn yn hollol wahanol. Ymffrostiai ei fod yn hanu o gynfrodorion yr ynys yn eu hen ogoniant, pan orfu i Iwl Caisar gefnu ar y wlad. Mae y gwr hwn, gyda'i byglod dad a'i dri brawd, yn ffurfio cydser amlwg a llachar yn ffurfafen Ceredigion a Chymru yn yr unfed canrif ar ddeg.
- (1) Cyhoeddwyd y cyfansoddiad hwn mewn llyfryn bychan, gan y diweddar Esgob Burgess, i'r hwn y mae y wlad yn ddyledus am adnabyddiaeth o'r gwaith, yn gystal ag am hanes o'r awdwr.
JAMES, DAVID, a aned yn Lletty Poeth, Llanddewi Brefi, yn y flwyddyn 1777. Dygwyd ef i fyny mewn teulu crefyddol. Ymawyddai am fyned i'r weinidogaeth yn yr Eglwys. Ar ol derbyn ychydig ysgol gartref, aeth i Ysgol Ystrad Meirig, dan addysg y Parch. J. Williams. Dangosai y pryd hyny lawer iawn o wybodaeth o'r Beibl.