Yn 1800, aeth yn athraw i athrofa Mr. Roy, Old Burlington, Llundain, lle y bu dros ddwy flynedd. Symmudodd i Deptford a Bromley. Ar ei ymadawiad â'r lle hwnw, cafodd ei anrhegu a llyfrau gan yr ysgolheigion. Cafodd ei urddo yn ddiacon Medi 21, 1806, ac yn offeiriad yn y flwyddyu ganlynol, gan Dr. Burgess, Esgob Ty Ddewi. Ei guradiaeth oedd Yspytty Cynfyn. Symmudodd i Lanfihangel y Creuddyn a'r Eglwys Newydd, lle y bu am tua phum mlynedd. Yr oedd yn barchus iawn gan y plwyfolion. Symmudodd wedi hyny i Lanwnog a Charno yn 1812. Gwnaeth ei ol yn fawr yn y lle hwnw trwy ddysgu moesoldeb a chrefydd i'r trigolion. Priododd â Miss Mary Hamer, merch D. Hamer, Ysw., o'r Wig. Cafodd wraig ragorol; cawsant saith o blant - dau fab a phum merch. Priododd un o'r merched ag Owen Davies Tudor, Bar-gyfreithiwr o Middle Temple; ac un arall & W. H. Adams, bar-gyfreithiwr, ao a osodwyd yn brif farnwr yn Hong Kong. Cafodd berigloriaeth Llangurig yn 1822. Efe a ymddiswyddodd o'r lle hwnw yn 1841, ar ei benodiad i berigloriaeth Llanwnog, lle y bu am 28 o flynyddau fel curad. Bu yn gwasanaethu fel capelydd yn Nhlotty Llanidloes a'r Drenewydd. Cynnaliai wasanaeth yno ddwy waith yr wythnos. Tanysgrifiodd y plwyfolion tuag at gael organ wech yn yr Eglwys, gan ei chyflwyno iddo ef, yn Hydref, 1855. Cafodd Mr. James ei benodi gan Esgob Ty Ddewi yn ddeon gwladol Arwystli. Efe a deithiodd i gyfarfodydd offeiriadol, cyfarfodydd y Feibl Gymdeithas, a'r Gymdeithas Genadol. Yr oedd yn dra elusengar ac haelionus. Bu y rhan olaf o'i fywyd yn drallodus gan wendid iechyd a chladdedigaeth ei anwyl blant. Bu farw Ionawr 9, 1864.
JAMES, ENOCH, diweddar beriglor Llandyssul, a churad Llanfihangel ar Arth, a aned yn y Llain, plwyf Llanfair Orllwyn. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, dan y Parch. T. Price, rheithor Llanfair Orllwyn. Cafodd ei urddo gan yr Esgob Burgess ar Llandyssul. Ystyrid ef yn un o bregethwyr blaenaf yr holl ardaloedd cyfnesawl; ac mewn lledneisrwydd a duwioldeb, anhawdd cyfarfod â'i ragorach. Mae y Parchedigion E.