Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

W. James, periglor Abergwili, D. O. James, rheithor Mathri, ac E. James, rheithor Llangollen, yn feibion iddo. Bu yn beriglor Llandyusul 29 o flynyddau. Bu farw yn y flwyddyn 1849.

JAMES, JOHN, gweinidog y Bedyddwyr yn Aberystwyth, ac wedi hyny ym Mhont Rhyd yr Yn, oedd enedigol o'r ardal gyntaf. Ganwyd ef yn 1777. Ymunodd â'r Bedyddwyr yn Aberystwyth yn 1796, a dechreuodd bregethu yn 1797. Ar y 12fed o Orphenaf, cafodd efe ac S. Breese eu hurddo yn fugeiliaid ar yr Eglwys Fedyddiedig yn nhref Aberystwyth. Bu y ddau yn lled lwyddiannus am flynyddau. Ymadawodd Mr. Breese yn 1812, a bu Mr. James yn gwasanaethu yno ei hunan am ryw flynyddau. Yn yr amser hwnw adeiladwyd addoldy Tal y Bont. Ymadawodd Mr. James ag Aberystwyth yn 1817, ac ymsefydlodd ym Mhont Rhyd yr Yn. Bu yno yn dra llwyddiannus. Symmudodd i Ben y Bont, Morganwg. Bu yno yn dra llafurus mewn casglu cynnulleidfa fawr ac adeiladu addoldy. Bu farw Ionawr 30, 1848, yn 71 oed.

JAMES, LEWIS (Gad o'r Ferwig), oedd enedigol o'r Ferwig. Yr oedd yn llawn iawn o ddawn prydyddol. Ceir rhai caniadau o'i eiddo yng Ngreal Aberteifi. Bu farw yn 1829, yn 44 oed.

JENKINS, DAVID, oedd enedigol o ardal Llanddewi Brefi. Cafodd ei ddwyn i fyny yn offeiriad, ac aeth yn gurad i sir Gaernarfon yn y flwyddyn 1741. Yr oedd yn wr o dalent a dysg, ac o fywyd crefyddol iawn. Gyfarfu â llawer o rwystrau, trwy gau Eglwysi yn ei erbyn, am ei fod, mae yn debyg, yn "offeiriad Methodistaidd.” Bu farw yn 25 mlwydd oed. Pan glybu Rowlands Llangeitho ei farw, dywedodd, “Dyna fy mraich dde wedi ei thori ymaith." (1)

(1) Perthynai Mr. Jenkins i hen deuluoedd y Crynwyr, yn ardal Llanddewi. Yr oedd ganddo frawd o'r enw Daniel Jenkins yn briod ag Ann, merch Rowlands Llangeitho. Yr oedd Daniel Jenkins yn un o'r tri pregethwyr ddarfu nacäu cymmeryd eu hurddo gyda'r Trefnyddion yn y sir yn 1811. D. Edwards, Lledrod, a Nathaniel Williams, Llannon, oedd y ddau arall. Pregethent ar ol hyny mewn ysgoldai, a mangu ereill, heb un gyfathrach a'r Corff.