Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd Dyrchafiad y Forwyn Fair, gan Benedetto Luti; Disgyniad oddi ar y Groes, gan Van Dyck; dwy Dirolwg, gan Berchen a Both; Salvator Hominum; dwy Olygfa Matavai Bay, yn Otaheiti a Funchal, un o'r Azores, gan Hodges. Yn yr ystafell giniaw yr oedd teulu gan Romney; y personau oeddynt, Mr., Mrs., a Miss Johnes; yr Uch- gadlywydd J. Lewis, a Dr. Stevenson, o Landyssul; Penau Socrates, Plato, Alcibiades, Sappho, a thri corffyll ereill. Yn yr ystafell giniaw auafol uwch y tân, yr oedd Cleopatra, gan Guercino; ac ar yr ochrau, y Vale and Castella of Tivoli, gan Delany; Tirolwg yn Flanders, gan Wouvermans; a darlun cywrain o Flias yn cael ei borthi gan Gigfrain. Daeth y darlun cywrain hwn o Fynachlog Tal y Llychau, yn amser y Diwygiad, a thybid ei fod yn waith un o benpaentwyr henaf ar ol adfywiad y gelfyddyd o baentio. Nid oes hanes pa faint o amser y bu ym meddiant y mynachod. Golygfa o Gastell Newydd Emlyn, gan Ibbestone; Darlun o Syr R. P. Knight, gan Webber; Golygfa o Aberystwyth, gan Ibbestone; a Darlun o Mr. Robert Liston, gan Wichstead; pedwar darluniad ar dyddyn yr Hafod, gan Jones Corffyll o'r diweddar Ddug Bedford, gan Nollikens. Yr oedd y llyfrgell ardderchog o ffurf capel, lle yr oedd llawer iawn o wydr paentiedig. brif ffenestr yr oedd darlun ardderchog o gyniadur (cardinal) yn penlinio o flaen ei nawdd seintiau. Yno yr oedd Corfyll o Arglwydd Thurlow. Yr oedd y llyfrgell gyffredinol yn un o brif ryfeddodau Cymru. Yr oedd yn cael ei hamgylchu gan oriel, yn cael ei dal gan bileri; y oedd y pileri yn dra ysblenydd, o ddull Doria. Yr oedd celfyddyd ar eu goreu ym mhob man yma. Ac yn yr ystafell fawr ardderchog hon, yr oedd y casgliad mwyaf ardderchog o bob llyfrau gwerthfawr, lle yr oedd casgliad drudfawr o lawysgrifau Cymreig, perthynol i Syr John Sodbright. Mewn gair, yr oedd y palas hwn yn un o ryfeddodau Cymru, a'r llyfrgell a phob peth arall a berthynai iddo yn syndod i bawb ag oedd yn ymweled â'r lle. Ond och! i'r gyflafan a'r dinystr ofnadwy! aeth y palas godidog hwn ar dân ar y trydydd ar ddeg o Fawrth, 1807; a chyfrifid y golled yn 70,000p! Beth bynag, ni ddigalonodd