Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Johnes ar hyn, ond efe a gymmerodd at ailadeiladu y palas drachefn. Y mae darlun o Mr. Johnes yn Neuadd tref Aberteifi, fel Arglwydd Raglaw a chynnrychiolydd y fwrdeisdref yn y Senedd. Bu wedi hyny yn cynnrychioli bwrdeisdref Maesyfed yn y Senedd. Bu farw Ebrill 23, 1816, yn 68 mlwydd oed. Yr oedd y dyn mawr a gwladgar hwn yn anrhydedd i Geredigion, Cymru, a Phrydain. Yr oedd yn ymdrechu defnyddio ei olud a'i ddylanwad i wneyd daioni i'w gyd-ddynion ym mhob peth. Yr oedd ganddo ysgol rad wedi ei hagor i ferched, o dan arolygiaeth Mrs. Johnes. Yr oedd y merched yn dysgu darllen a nyddu. Yr oeddynt wedi dysgu nyddu y llieiniau byrddau goreu, y rhai a arferid yn yr Hafod, ac yr oeddynt yn nyddu defnyddiau crysau Mr. Johnes. Yr oedd llawfeddyg ac apothecari yn derbyn tâl blynyddol ganddo am edrych dros y bwthynwyr ar ei ystâd, a bu meddygfa i'r holl gymmydogaeth unwaith mewn pythefnos yn y ty. Gwyn fyd na byddai holl foneddigion Cymru yn efelychu y boneddwr mawr ac uchelglodus hwn. Bu iddo un ferch, yr hon a fu farw yn ieuanc. Y mae darlun o honi yn marw'ar bwys ei thad, yn yr Eglwys Newydd, yn waith cywrain celfyddyd. Arfbais Mr. Johnes oedd eiddo Urien Rheged, fel Arglwydd Dinefwr.

JOHNS, David, un o'r cenadon cyntaf i Madagascar, ydoedd frodor o ardal Llanarth. Ymaelododd yn lled ieuanc yn y Neuaddlwyd; a chyn hir, dechreuodd bregethu, gan fyned i'r ysgol at y Dr. Philips, Neuaddlwyd. Ar ol i Mr. D. Jones, y cenadwr, golli ei deulu, dychwelodd i Mauritius i adsefydlu ei iechyd, ac attaliwyd y genadaeth am ychydig. Yn y flwyddyn 1820, ad-ddechreuodd y Parch. D. Johns y genadaeth dan amgylchiadau tra gobeithlawn: Aeth i fyw i Tananarifo, y brif ddinas - y parth mwyaf iachus o'r ynys. Ym Medi, 1826, cydunodd Mr. D. Johns, Mr. Cameron, saer, Mr. Cummins, a'u gwragedd, a Meistri Jones a Griffiths yn y genadaeth. Ar ol hyn, y mae llawer o amser D. Jones a D. Johns yn cynnwys agos yr un hanes. Cyfieithodd Mr. D. Johns, a J. Rainisoa, penarolygwr yr ysgolion, Daith y Pererin, gan Bunyan, yn y flwyddyn 1836, i iaith y wlad, yr hwn a