Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

merch Cynan Tindaethwy. Daeth Powys iddo drwy etifeddiaeth, ar ran ei famgu, mam ei dad, yr hon oedd chwaer ac etifeddes i Congen ab Gadell, Brenin Powys; a chan iddo yn y modd hyn ddyfod yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru, cafodd, y mae yn debyg, ei alw yn Rodri Mawr. Rhanodd ei deyrnas yn dair rhan; Gwynedd i Anarawd, a'i lys oedd yn Aberffraw, Mon; Powys i Merfyn, a'i lys oedd ym Mathrafel; a Cheredigion i Cadell, a'i lys oedd yn Dinefwr. O Gadell yr hanodd tywysogion y Deheudir. Mab Cadell ydoedd yr enwog Hywel Dda.

ANGHARAD, ferch Meredydd. Yr oedd Meredydd, tad Angharad, yn fab i Owain ab Hywel Dda, Tywysog Ceredigion. Nid oes digon o sicrwydd pa un ai yn Aberteifi neu ynte yn Ninefwr y ganwyd yr etifeddes; ond gan fod y ddau enw yn cael eu coffa fel y gwelir yn ewyllys Hywel Dda, sef fod Owain ei thad yn Frenin Ceredigion, cymmerwn yn debyg mai yng Ngheredigion y dechreuodd ei hoes. Priododd Angharad â Llywelyn ab Seisyllt, pan nad oedd ond pedair ar ddeg oed; ac ar ol marwolaeth Llywelyn yn y flwyddyn 1021, hi a briododd Cynfyn ab Gwerystan, Arglwydd Cibwyr, yng Ngwent, ab Gweithfoed ab Gloddion ab Gwrydr Hir ab Caradawg. Mab Llywelyn ab Seisyllt ac Angharad ydoedd y tywysog call Gruffydd ab Llywelyn.


ARNOTHEN, Brenin Aberteifi. Yr oedd y tywysog hwn o flaen Artholes yn y rhes freninol


ARTHEN AB SEISYLLT ydoedd Frenin Aberteifi; yn ol y Brut, bu farw yn y flwyddyn 804, sef yr un flwyddyn a Rhydderch, Brenin Dyfed, ac a Chadell, Brenin Teyrnllwg, sef Powys.


ARTHEN AB SULIEN ydoedd ail fab Sulien Ddoeth, Archesgob Ty Ddewi. Ymddengys fod Sulien Ddoeth, cyn iddo gael ei ddewis yn Archesgob Ty Ddewi, yn perthyn i Gôr Llanbadarn Fawr, yng Ngheredigion, lle y dygodd ei feibion i fyny yn uchel mewn dysg eglwysig.


ARTHOLES, Brenin Aberteifi, rywle o'r pummed i'r seithfed canrif.


ASSUR, Brenin Aberteifì, a geir yn y rhes o flaen y ddau flaenorol.