Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BACH ydoedd seithfed mab Gweithfoed Fawr, Arglwydd Ceredigion. Etifeddiaeth Bach ydoedd arglwyddiaeth Ysgynfraith.

BEVAN, THOMAS, y cenadwr ym Madagascar, a anwyd ym Mhenrhiw, ym mlwyf Henfynyw. Cafodd ei dder- byn yn aelod yn y Neuaddlwyd pan yn weddol ieuanc, a dygwyd ef i fyny yn yr athrofa hòno ar gyfer y weinidogaeth. Tueddwyd ei feddwl i fyned allan yn genadwr i Madagascar; ac yn Awst, 1817, cafodd ef a gwr ieuanc arall o'r ardal hono, o'r enw Dafydd Jones, eu hurddo yn y Neuaddlwyd, i'r dyben hyny. Thomas Bevan a Dafydd Jones oedd y ddau genadwr Protestanaidd cyntaf a diriasant ym Madagascar. Gwnaeth y Pabyddion un ymdrech i sefydlu cenadaeth yn yr ynys, ond gan iddynt gymmeryd ffordd fygythiol ar y brenin gorfu arnynt adael y wlad. Gadawodd Bevan a Jones Brydain yn niwedd y flwyddyn rag-grybwylledig, ac a gyrhaeddasant Mauritius yn Ebrill, 1818; ac yn Awst, hwy a aethant drosodd i Madagascar, lle y cawsant dderbyniad croesawgar gan Fisitra, Brenin Tamatave, yr hwn a ddanfonodd ei fab, yng nghyd â deg neu ddeuddeg o blant atynt i'r ysgol. Yr oedd llawer wedi bod yn mynegu nad oedd un modd yn y byd i ddysgu y genedl hono; ond deallodd y cenadon yn fuan fod galluoedd lled dda i ddysgu gan y plant. Yr oedd y plant megys yn dyfod ym mlaen heb yn wybod. Ar ol iddynt gael y fath dderbyniad caredig yn yr ynys, dychwelasant i Mauritius i ymofyn eu gwragedd a'u plant: y Parch D. Jones a ddychwelodd gyntaf i Mauritius; ond cyn dychweliad y Parch. T. Bevan yn ol i Tamatave, gofynodd i un o'r masnachwyr, pa fodd yr oedd Mr. Jones a'i deulu; yntau a atebodd, "O, y mae ei wraig a'i blentyn wedi eu claddu, ac y mae yntau ei hun yn dra annhebyg i fyw." Pan glywodd hyny, efe a dorodd allan i wylo yn hidl, gan barhau felly oddi yno i artref ei barchus a'i ofidus frawd. Pan aeth i olwg Jones, ymaflodd yn ei law, a dywedodd dan wylo, "Y mae fy ngwaith i ar ben, ond chwi a fyddwch byw ac a lwyddwch; ymwrolwch, a chymmerwch galon." Yna dywedodd Mr. Jones, "Tewch, myfi sy glaf, yr ydych chwi yn iach."