Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr Bevan a ddywedodd, "Chwi a gewch weled mai gwir a ddywedais, ac fe ddaw un arall i lanw fy lle." Bu farw Mr. Bevan ym mhen y tridiau; a'i wraig a'i blentyn a fuont feirw ar ei ol ef yn fuan. A chyn diwedd Ionawr, 1819, yr oedd pump o'r chwech cenadon, a'u teuluoedd wedi marw, a'r chweched yn glaf. Fel hyn gorphenodd y cenadwr ieuanc hwn ei yrfa.

BOWEN, DANIEL, A.C, ydoedd unig fab Thomas Bowen, Ysw., Waenifor, plwyf Llandyssul. Bu ar y cyntaf yn derbyn addysg dan yr hyglod Ddafis o Gastell Hywel, ac wedi hyny ym Mhrifysgol Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn A.C. Cafodd fywoliaeth fechan Eglwyswen, sir Benfro, ac wedi hyny fywoliaeth Llanllwni a Llanfihangel Rhos y Corn. Y mae Llanllwni yn agos i balas Waenifor, ac felly efe a breswyliodd drwy ei oes yn ei balas genedigol, gan wasanaethu Llanllwni, a thalu curadiaid yn y ddwy arall. Er ei fod yn dal y tair Eglwys, eto dylid ystyried eu bod o ran eu gwerth arianol yn fychan iawn. Y mae cymmeriad hen deulu parchus Waenifor yn uchel iawn yn y wlad, am elusengarwch a chrefyddoldeb; ac yr oedd y Parch. D. Bowen yn sefyll cyfuwch â neb o honynt. Yr oedd yn berchen tua mil o bunnau y flwyddyn oddi wrth ei ystâd; ac yr oedd yn cyfranu yn helaeth i bawb yn eu hangen. Arosai yn ei gerbyd yn aml, pan ym mhell o gartref, er mwyn holi amgylchiadau rhai fyddai yn weled yn dwyn arwyddion tlodi. Rhoddodd yn ei ewyllys, bob o bedwar cant i blwyfi Llanllwni, Llanwenog, Llandys- sul, ac Eglwyswen, tuag at gynnal ysgol i'r tlodion. Rhoddodd hefyd 12p. y flwyddyn o ysgoloriaeth i Goleg Dewi Sant: y flaenoriaeth i berthynasau y cymmunroddwr. Rhoddodd hefyd swm i'r Feibl Gymdeithas. Bu farw yn y flwyddyn 1848, yn 71 mlwydd oed. Rhoddodd y rhan fwyaf o ystâd Waenifor i'w nai, John Lloyd, Ysw.; ac y mae yn bresennol ym meddiant nai arall, y Parch. Charles Lloyd, yr hwn sy foneddwr teilwng o'i deidiau. (Bu farw y Parch. C. Lloyd ar y Sulgwyn, 1867, Safai yn uchel iawn fel offeiriad a boneddwr.)


BOWEN, SION, Glynllebyng, Troed yr Aur, oedd foneddwr yn ei flodau tua chanol y canrif diweddaf. Preswyliai