Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei blasdy ei hun, Glynllebyng, a elwir yn awr Troed yr Aur. Y mae llawer o hen gyfrolau o Halsingau, neu Alseiniau, i'w cael ya nhair swydd Dyfed. Cawsant eu cyfansoddi, gan mwyaf, yn y ddau ganrif diweddaf. Yr oedd Sion Bowen yn awdwr cyfrol led fawr o'r caneuon hyn. Llawysgrifau ydynt. Wele enghraifft o ddechreu un o'i ganeuon ar y Greadigaeth : —


"Yr hen Satan cas, ar lun neidr las,
Ddywedai yn fwyn, wrth Efa'n y llwyn,
Pe bwytech chwi Gwen o afal y pren,
Fel duwiau chwi faech, a marw ni wnaech."


Yr oedd Sion Bowen yn awdwr llawer o ganeuon heb law Alseiniau. Yr oedd y diweddar Barch. T. Bowen, Rheithor Troed yr Aur, yn ŵyr iddo.

BOWEN, THOMAS, Gwaenifor, oedd dad y Parch. D. Bowen uchod. Yr oedd yn foneddwr enwog am ei elusengarwch, haelioni, hynawsedd, a chrefyddoldeb. Hanai o hen deulu Castell Hywel. Sylfaenydd yr enw Bowen, oedd Owain mab Dafydd ab Rhydderch o Bantstreimon. Hen gartref y Boweniaid oedd Bwlchbychan. Bu John Thomas, awdwr Caniadau Sion, yn cadw ysgol yngr Ngwaenifor, Rhoddai Mr. Bowen ysgol i lawer iawn o dlodion yr ardal. Adeiladodd gapel ger llaw y palas yn 1750, lle, mae yn debyg, y cynnelid yr ysgol. Yr oedd yn uchel yn ei nodwedd grefyddol, ac felly hefyd y teulu oll. Bu farw yn y flwyddyn 1805, a phrofwyd ei ewyllys yn y llys yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn ganlynol. Mae y capel yn eiddo y Trefnyddion Calfinaidd.


BROTHEN, Tywysog Ceredigion, yr hwn a flodeuodd tua diwedd y chweched canrif. Tybia rhai mai yr un ydoedd a Brothen ab Helig ab Glanawg, yr hwn a sylfaenodd Eglwys Llanfrothen ym Meirionydd; ond y mae hyny yn dra ammhëus, gan fod tebygolrwydd mai un o deulu Ceredig ab Cunedda Wledig ydoedd y Brothen hwn.


CADIFOR AB DINAWOL ydoedd yn hanu o Idwal (neu Tudwal) Gloff ab Rhodri Mawr, ac yn orwyr i Asser o Dy Ddewi, neu Asser Menevensis, un o ddysgedigion penaf