Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei raddio yn y celfyddydau, a chafodd ei urddo yn Llanbadarn Fawr, lle y bu yn gweinidogaethu yn amser Cromwel; ond o blegid nacäu cydymffurfio à Deddf yr Unffurfiad, cafodd ei droi allan, a bu yn gweinidogaethu yn Cilgwyn a'r cylchoedd yn gyfranog a D. Edwards ac ereill. Preswyliai pryd hyny ym mhlwyf Penbryn, gan gadw ysgol. Mae lle o'r enw College yn y plwyf hwnw, yr hwn ef allai a gafodd yr enw oddi wrth ei ysgol ef. Bu farw yn y flwyddyn 1700.

JONES, DAVID, o Lanwenog, oedd ysgolfeistr enwog yn preswylio yn Nolwlff. Ym mysg yr enwogion fu yn ei ysgol yr oedd Dafis Castell Hywel, fel y cydnebydd yn ei Delyn Dewi. Bu hefyd yn cadw ysgol yn Llansawel. Cafodd llyfr ei gyfieithu ganddo o'r enw "Eucharista, neu Draethawd am Swpper yr Arglwydd, a 'sgrifenwyd mewn Prydyddiaeth yn Lladin gan y Dysgedig Hugo Grotius," a'i argraffu yng Nghaerfyrddin yn y fl. 1765. Mae "Agor- iad Byr i'r Salm 37, yng nghyd â Gweddi y Tywysog Eugene," yn Chwanegiad at y llyfr. Yr oedd arno awydd fawr am weled Palestina a manau ereill o'r byd; ac i'r dyben hwnw, ysgrifenodd lythyr Lladin gwych at Mr. Llwyd, Gallt yr Odyn; ac ar y pryd, yr oedd gwr dysgedig iawn ar ymweliad & Mr. Llwyd, yr hwn a fawr ganmolodd y llythyr. Cyfranodd y boneddwr yn haelionus tuag at yr amcan. Aeth D. J. rhagddo hyd Rydychain, a chafodd 15p. yn y Brifysgol tuag at orphen ei amcan. Aeth i Balestina a manau ereill o'r byd, gan wneyd nodiadau ar ei holl daith, a dychwelodd. Nis gwyddom beth ddaeth o'r llawysgrif. Mae y Parch. E. Jones, B.D., periglor Llanfihangel ar Arth, yn berthynas iddo.

JONES, DAVID, y cenadwr ym Madagascar, oedd enedigol o ardal y Neuaddlwyd, ger Aberaeron. Derbyniodd y rhan fwyaf o'i ddysg gan y Dr. Philips, yn Neuaddlwyd. D. Jones & Thomas Bevan a urddwyd yn y Neuaddlwyd, yn Awst, 1817. Tiriodd y ddau ym Mauritius yn Ebrill, 1818; ac ym Awst, aethant trosodd i Madagascar, lle y cawsant dderbyniad gwresog gan Fisatra, brenin Tamatave, ac efe a ddanfonodd ei fab ei hun a deg neu ddeuddeg o blant i'r ysgol. Dychwelodd Mr. Jones cyn hir i