Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mauritius, i ymofyn ei wraig a'i blant, lle y cafodd ei daro yn glaf gan dwymyn. Bu farw Mrs. Jones a'r plentyn. Ar ol hir selni, efe a aeth drosodd i Mauritius, lle y cymmerodd at addysgu plant y teulu breninol. Priododd eilwaith yn 1821. Yn niwedd y flwyddyn 1822, ffurfiodd Mr. Jones, yng nghyd â'r Meistri. Johns a Griffiths, orgraff y Fadagascaeg, yn y llythyrenau Rhufeinig, trwy roddi un sain benodol i bob llythyron, ac ysgrifenu pob gair fel ag yr oedd yn cael ei seinio gan yr areithwyr goreu. Yn ol y cynllun hwn, ysgrifenai y brodorion eu hiaith yn rhwydd ac yn gywir. Dangoswyd gwrthwynebiad mawr gan y Seison ag oedd yn yr ynys, am na ddilynid y sain Seisonig; a dywedir iddynt anfon at rai o brif ddynion Lloegr i gael eu barn: ond er fod y Seison, fel y gallesid dysgwyl, yn erbyn y dull syml a rhesymol ag oedd y Cymry yn wneyd, daliodd y tri cenadwr yn gadarn dros y dull Cymreig, a chawsant y brenin ac ereill iw cymmeradwyo. Y mae y dull i fod yn ddigyfnewid mwyach, o herwydd ei fod wedi ei selio a deddf gan Radama, a'i ddilyn gan bob ysgrifenydd yn yr ynys. Cymmerodd Mr. Jones a Mr. Griffiths at y gwaith o gyfieithu y Beibl, trwy gymmeryd at bob o ran o hono. Erbyn y flwyddyn 1824, yr oedd ysgolheigion & dysgyblion crefyddol yr ynys yn cynnyddu yn gyflym. Ar ol arholiad cyhoeddus o'r plant yn 1827, a gweled fod y brenin yn dyrchafu y rhai mwyaf teilwng, ymosododd y rhieni yn fwy cyffredinol am gael ysgol i'w plant. Yn fuan wedi hyny, daeth allan o'r wasg 1500 o holwyddoregau, 800 o lyfrau hymnau, a 2200 o lyfrau bychain i ddysgu sillebu a darllen; ac yn y flwyddyn 1828, dechreuwyd y gwaith o argraffu Efengyl Luc. Ym mis Mehefin, aeth Mr. Jones i lan y mor i gyrchu y Meistri Bennett & Tyreman, ymwelwyr â'r sefyllfaoedd cenadol yng ngwahanol barthau o'r byd. Tua'r amser yma bu farw y brenin rhinweddol Radama. Bu farw Mr. Tyreman yn fuan wedi tirio yn yr ynys; a thra yr oedd y Cristionogion yn dychwelyd o'i angladd, cawsant lythyrau oddi wrth y frenines, gan addaw yn dda; ond yn fuan dechreuodd erlid a merthyru y Cristionogion. Yn fuan wedi hyn, llofruddiwyd yn ddirgelaidd dros bump ar hugain o deulu