Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hen frenin Radama. Am yr amser maith o alar am y brenin Radama (amser gwaharddedig i weithio yn gyhoeddus), bu Mr. Jones a'i gyfeillion yn dra diwyd yn cyfieithu yr Ysgrythyrau, a Mr. Baker yn eu hargraffu. Ar ol anfon enghraifft o'r Ysgrythyrau i'r llys, gwrthodwyd eu cymmeradwyo, am mai llyfr drwg oedd y Beibl, o herwydd tybient wrth y cryf arfog a'r un cryfach na hi, mai brenines Madagascar oedd y cyntaf, ac mai brenin Lloegr oedd yr olaf, ac felly i ddyfod i'w diorseddu. Yn fuan wedi hyn, anfonodd y frenines at Mr. Jones a Mr. Griffiths am roddi fyny addysgu y Beibl yn yr ysgolion: ond trwy bwyll a mwyneidd-dra y cenadon, cawsant genad i fyned ym mlaen. Ym Mehefin, 1830, ymadawodd Mr. Jones a'i deulu a'r ynys, gan fyned drosodd i Mauritius, ac oddi yno i Brydain. Y Sul olaf cyn ei ymadawiad, pregethodd oddi ar 1 Thes. v. 21., nes gwneuthur effaith fawr ar y gynnnlleidfa. Ar ol aros am dro ym Mhrydain, gan bregethu a darlunio hanes Madagascar, a helynt y genadaeth yn y wlad, dychwelodd i Mauritius, a chyn hir i Madagascar. Ym Mehefin, 1840, cyrhaeddodd Mr. Jones a'r Cadben Campbell, Ambatomanga. Dyben Mr. Jones oedd ymweled a'i hen gyfeillion, ac i geisio rhyddid gan y frehines dros Gymdeithas Amaethyddol Mauritius. Yr oedd yn amser caled iawn ar y Cristionogion y pryd hwn. Cafodd Mr. Jones a'i gyfaill genad i fyned i'r brif ddinas. Ar ei daith, cafodd ddolur enbyd ar ei glun, a gorfodwyd ei gludo yn y filanjana (cadair). Rhoddodd y frenines bob o dy iddynt i breswylio, a hwythau a anfonasant iddi yr hosina (arwydd o barch), yn ol arfer y wlad. Ond deallasant yn fuan eu bod yn garcharorion. Tranoeth, adnewyddwyd holiad y Cristionogion, a chollfarnwyd amryw i farwolaeth; ond llwyddodd rhai i ddianc. Gorphenaf 8, gwahoddwyd Mr. Jones ac ereill o'r Ewropiaid i giniaw at Raininiaharo, prif elyn y Cristionogion. Bu yn gyfyng ar Mr. Griffiths pryd hyn, am iddo lwyddo i gynorthwyo y Cristionogion i ffoi; a'r dydd canlynol, rhoddwyd torf i farwolaeth am broffesu Cristionogaeth. Cafodd Mr. Jones ar yr amser hwn ei daro yn glaf iawn gan yr ewynwst. Parhaodd yn amser blin iawn yn yr