Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr alwedigaeth anrhydeddus hòno. Trwy ei wybodaeth ddofn o'r gyfraith, synwyr cryf, a buchedd foneddigaidd, yr oedd yn uchel iawn ei gymmeriad yn ei wlad. Bu yn adelod seneddol dros dref a sir Gaerfyrddin am flynyddau, ac ennillodd glod mawr fel cynnrychiolydd y bobl. Bu farw Tachwedd, 1842, yn 65 oed.

JONES, LEWIS, gweinidog yr Annibynwyr ym Mhen y Bont, ac wedi hyny yn Rhosan, oedd enedigol o ganol. barth y sir. Ganed ef yn y flwyddyn 1701. Dechreuodd grefydda yn ieuanc, a dechreuodd bregethu pan yn ddeunaw oed, ac felly yr oedd ar y maes un flynedd ar bymtheg o flaen Hywel Harris. Ar ol dechreu pregethu, aeth i Athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd ei amser arferol, a chynnyddai yn gyflym dros ben mewn dysgeidiaeth; ac yn unol â'i hawddgarwch a'i dduwioldeb, ennillodd iddo ei hun barch a chymmeradwyaeth ei gydfyfyrwyr a'i athraw. Cafodd ei urddo yn Llanedi. Lledodd ei glod trwy y wlad yn gyffredinol. Cafodd alwad i fyned i Ben y Bont a'r Bettws, maes llafur y dysgedig, y boneddigaidd, a'r llafurus Samuel Jones, Bryn Llywarch. Cydsyniodd a'r alwad. Coronwyd ei ymdrechion yno & llwyddiant mawr yn fuan. Yr oedd ei ymddangosiad, ei lais, ei ddull, a dwysder ei weinidogaeth yn ffafriol iawn iddo i ddylanwadu ar ei wrandawyr. Yr oedd yn gallu boddloni y boneddigion coethedig, ac hefyd y werin. Yr oedd yn y weinidogaeth enaid a chorff. Aberthai esmwythder, cysur, amser, ac iechyd er mwyn ennill eneidiau at Grist. Pregethai dair gwaith bob Sul, ac yr oedd yn pregethu bob prydnawn dydd Sadwrn yn hen gapel Pen y Bont. Byddai yn myned trwy y farchnad a'i wn du am dano, a byddai y bobl yn y farchnad a'r masnachwyr yn ei ddilyn yn fuan. Elai allan ar hyd y wlad i ddysgu a phreswadio dynion anystyriol. Un boreu Sul teg, fel yr oedd â llu o'i ffyddloniaid yn cerdded o Lanharan ar ei ol i Ben y Bont, gwelai dorf o ddynion yn chwareu pel. Ennynodd ei eiddigedd wrth weled Dydd yr Arglwydd yn cael ei halogi. Neidiodd i ben mur, a dechreuodd weddïo dros blant y campau. Dechreuodd y chwareuwyr arafu, gan nesu at y gweddiwr, a daeth y rhan fwyaf i'w wrando. Ar ol