Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweddio, dechreuodd bregethu (gan adael cyfarfod Pen y Bont) oddi ar Esai xxxviii. 10, 11, a dilynodd effeithiau rhyfeddol. Yr oedd mor addfwyn a'r oen, ac mor ddiniwed a'r golomen. Yr oedd sirioldeb, lledneisrwydd, a chydymdeimlad yn cartrefu yn ei wynebpryd. Yr oedd hon geisbwl annynul yn y dref yn ymdrechu ei flno. Pan oedd Lewis Jones yn cadw dyledswydd deuluaidd, aeth yno i'w derfysgu: lluchiai geryg i mewn trwy y ffenestr. Meddiannai yntau ei hun yn dawel. Edrychodd yn llaiaidd ar y ceisbwl, a chollodd hwnw ei nerth yn fuan, gan droi ymaith. Annogwyd Mr. Jones i'w gospi; ond efe a nacaodd. Cyn hir, aeth yr hen geisbwl yn glaf, a chafodd yntau gyfle i bentyru marwor tanllyd ar ei ben. Nid oedd neb yn ymgeleddu y gwr gresynus. Aeth Mr. Jones ato, gan gyfranu bwyd, diod, a meddyginiaeth. Trwy ymdrechion y gwr da, a bendith Duw, cafodd y truan wella, a daeth o hyny allan yn edmygwr diolchgar o Mr. Jones. Holwyddorai y bobl yn yr Ysgrythyrau, nes y daeth pobl ei ofal yn gedyrn mewn duwinyddiaeth. Cynnaliai hefyd ysgol ieithyddol; a dywedir ei fod mor gyfarwydd â'r Hebraeg, fel y gallai ymddyddan a'r Iuddewon yn yr iaith hono. Cododd rai ysgolheigion rhagorol. Ymwelai yn flynyddol â choleg Caerfyrddin. Yr oedd yn ddyn manol iawn. Cadwai ddyledswydd deuluaidd i'r un mynydau bob dydd. Yr oedd yn rhy dyner-galon i ddiarddel neb, fel y byddai yn arfer ymofyn yr hen Edmund Jones, Pont y Pwl, at hyny. Merch iddo oedd gwraig Mr. Jardin, athraw Coleg Abergafeni. Symmudodd ym mhryddawn ei fywyd i Rosan, swydd Henffordd. Bu farw yn y fl.1772, yn 72 ml. oed. Bu dros hanner can mlynedd yn y weinidogaeth, ac meddir, yn un o'r gweinidogion goreu a fu yng Nghymru erioed.

JONES, LEWIS, periglor Almondbury, ger Huddersfield, swydd Gaerefrog, oedd ail o dri mab William a Mary Jones, Penbontbren Uchaf, plwyf Llanfihangel Geneu'r Glyn. Ganed ef yn y flwyddyn 1793 Yr oedd ei dad yn ieuengaf o dri mab William John, Hafodau, plwyf Llanbadarn Fawr. Mae yr Hafodau wedi bod ym meddiant y teulu er ys tri chant o flynyddau; ac y mae y teulu wedi,