Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan yn 22 oed. Cynnyddai yn gyflym mewn gwybodaeth a chymmeriad crefyddol, a chafodd yn fuan ei annog bregethu. Ar ol ychydig betrusder, efe a ymunodd a'r cais. Elai yn fisol i Grug y Bar, Ffald y Brenin, a Mynydd Bach. Pan tua 25 oed, priododd & Jane, merch Dafydd Ifans, Felin Gernos. Urddwyd ef yn Llangynwyd a Chymmer, Glyn Corwg, ym Morganwg, yn 1800. Bu yn ddiwyd iawn a llwyddiannus. Efe a sefydlodd achos ym Mrynmenyn. Aeth i bregethu i gynulleidfa fechan a gyfarfuasent mewn hen efail, ond yn awr Bethesda, ym Merthyr. Bu yn offeryn i adeiladu ao ailadeiladu Bethesda; a phlanodd achosion yn Rhymni, Dowlais, Troed y rhiw, a Chefn Coed y Cymmer. Yn ystod ei arosiad o 39 mlynedd ym Methesda, bernir iddo dderbyn yno dair mil o aelodau. Bu farw Ion. 15, 1839, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Bethesda. Yr oedd yn ddyn tal rhyfeddol, ac felly hefyd ei blant. Mab iddo oedd y diweddar Barch. D. Jones, yr hwn fu yn genadwr yng Ngogledd America, ac wedi dychwelyd, yn Rheithor Llan- goodmor, a Phroffeswr y Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant.

JONES, MICHAEL, diweddar weinidog yr Annibynwyr yn Llanuwchlyn, oedd enedigol o blwyf Henfynyw, yn agos i Neuaddlwyd. Symmudodd ei rieni o'r lle y cafodd efe ei eni i dyddyn o'r enw Ffos y Bontbren. Ymaelododd yn y Neuadalwyd, dan weinidogaeth y Dr. Philips Annogwyd ef yn fuan gan y Dr. i ymroddi at weinidogaeth yr Efengyl. Aeth i ysgol enwog Mr. Davis, Castell Hywel; ond gorfodid ef ar amserau i gadw ysgol ei hun. Yn 1810, cafodd ei dderbyn i athrofa y Gogledd, pryd hyny a gynnelid yng Ngwrecsam, dan arlywyddiaeth y Dr. Jenkin Lewis. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf yno, yr oedd Dr. George Lowis yn athraw duwinyddol. Yn y flwyddyn 1814, cafodd ei urddo yn Llanuwchlyn, lle yr arosodd am 28 o flynyddau. Yn fuan ar ol iddo sefydlu yno, aflonyddwyd heddwch crefyddol y lle, gan rai a goleddent olygiadau o Uchel-Galfiniaeth. Cynnyddodd yr ymryson dadleuol hyn i raddau pell dros y wlad ar y pryd. Pryd hyny, yr oedd rhai o'r Annibynwyr yn dyfod allan i bregethu y rhai