Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â elwir yn dybiau cymmedrol Dr. Williams, o Rotherham, ac Andrew Fuller. Aeth y ffrwgwd hon ym mhell iawn yng nghynnulleidfa Mr. Jones; ac efe a safodd dros olygiadau Dr. Williams ac Andrew Fuller, gyda llawer iawn o wroldeb. Oherwydd hyn, taflwyd y capel i'r Canghell-lys, fel y gorfu arno ef a'i ganlynwyr fyned i addoli i dy arall. Ar ol hir dymmestl, daeth yr awyr yn deneuach, a chafodd Mr. Jones a'i fobl ddychwelyd i'r hen gapel; a chyn hir, dychwelodd y rhan fwyaf o'r "terfysgwyr "Uwch-Galfinaidd i ymofyn lle gyda'r brodyr. Symmudodd Mr. Jones i'r Bala yn 1841. Pan symmudwyd athrofa yr Annibynwyr o'r Gogledd i Aberhonddu, penderfynodd gweinidogion y Gogledd i gael sefydliad ym mhlith eu hunain, a dewiswyd Mr. Jones yn benaeth. Dewiswyd y Bala yn safle yr athrofa; ac yno y treuliodd y deuddeg mlynedd diweddaf o'i oes. Yn ystod y tymmor hwn, ni fu llai na 89 o wŷr ieuainc yn derbyn addysg ganddo; ac y mae llawer o honynt heddyw yn weinidogion parchus. Dywedir ei fod yn ddyn o nerth anianyddol anghyffredin. Codai yn rheolaidd rhwng 5 a 6 o'r gloch yn y boreu, a dwywaith yr wythnos rhwng 1 a 2. Yn ystod ei holl yrfa weinidogaethol, efe a gadwai un o'r ysgolion rhad hyny, a sefydlwyd yn y Gogledd, gan warcheidwaid y Dr. Williams. Yr oedd ganddo bedair neu bump o Eglwysi bychain dan ei ofal. Arferai myfyrwyr ei gyfarfod yn yr ysgol am chwech y bore; am naw, efe a elai i'r ysgol rad, lle yr arosai dros awr, ac yna elai at y myfyrwyr hyd un ar ddeg, tra y cymmerai un o honynt hwythau ofal yr ysgol rad. Gollyngai hwynt oll am un ar ddeg, a chyfarfyddent eilwaith am un o'r gloch; ac felly cynnelid yn mlaen y ddwy ysgol. Yr oedd yn hynod o benderfynol. Dywedir nad oedd yn hoff o farddoniaeth; ac arferai ddywedyd, nad oedd nemawr o feirdd yn feddylwyr dyfnion. Fel duwinydd, yr oedd wedi darllen llawer, ond yn barnu pob rhan o'r Beibl yn ol fel yr oedd ei ddeall ei hun yn ei weled. Yr oedd o feddwl annibynol iawn. Nid oedd ganddo fawr olwg ar yr hyn a elwir "Adfywiadau Crefyddol." Hoffai weled pobl yn dyfod i dy Dduw yn eu hiawn bwyll; ac heb hyny, nad oedd fawr