Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

obaith y gwelid hwy yn parhau gyda'r gwaith. Hawdd deall wrth ei olwg ei fod yn ddyn hynod. Yr oedd ei gyfeillach yn ddifyr ac adeiladol. Yr oedd yn gyfaill cywir - ei gyfeillgarwch mor ddiysgog a'r graig. Yr oedd yn ddirwestwr llwyr; ac ni arferai fyglys, ond yr oedd yn elyn pendant iddo. Bu farw Hyd. 27, 1853, yn 68 oed. Yr oedd 30 o weinidogion perthynol i wahanol enwadau yn ei angladd. Claddwyd ef ym mynwent capel Ebeneser, Llanuwchlyn. Mab iddo yw y Parch. M. D. Jones, yr hwn sydd wedi ei ddilyn yn athrofa y Bala, yr hwn yw blaenor symmudiad y Wladychfa Gymreig, ym Mhatagonia.

JONES, RHYS, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ydoedd enedigol o Dregaron. Yr oedd wedi derbyn mwy o addysg na nemawr o'i gyfoedion yn ei oes. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1718. Urddwyd ef yn Ty tan yr Allt Fawr, plwyf Llandyssul, yn y flwyddyn 1740. Gweinidogaethodd yn y parthau hyny am dair blynedd, a symmudodd i Ben y Fai, Morganwg. Dychwelodd i lenydd y Teifi, a bu farw yn 1767.

JONES, RHYS, diweddar o Bwllffein, a aned yn Nhalgareg, plwyf Llanarth, Hyd. 1797. Ei dad oedd Dafydd Jones, o Glettwr, ac yr oedd ei hynafiaid yn hen feddiannwyr tir yn y wlad. Bu farw ei dad pan yn lled ieuanc. Bu yn yr ysgol gyda'r enwog Ddafis, o Gastell Hywel; ond o herwydd marwolaeth ei dad, ac i'w fam briodi â'r gwas, ymddengys iddo orfod ei gadael yn fuan. Yr oedd yn ysgolor gweddol dda mewn Cymraeg, Seisoneg, Lladin, a Groeg. Priododd, pan yn ugain oed, â Mari, unig ferch John a Jane Davies, Nant yr Ymenyn, Llandyssul. Dechreuodd ddangos hoffder at yr awen pan yn lled ieuanc, gan gyfansoddi llawer iawn yn y mesurau rhyddion yn gystal a'r mesurau caethion. Yr oedd yn hyn yn ddigon o "grwth a helyn" mewn difyru y gymmydogaeth yr oedd llawer o ofn ei awen arab a gwawdlym ar ddynion annynol y wlad. Yr oedd hefyd yn gyfeillgar a chariadas i'r gymmydogaeth; a chan ei fod mewn amgylchiadau cysurus, cyfranai yn fynych at angen ei gymmydogion mewn modd diymffrost, ac ys dywedodd Dewi Wyn :-