Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fodd, nid yw y sir hòno i mewn, er ei bod yn cael ei henwi ar y wyneb ddalen. Y mae wedi ei wneyd i fyny yn benaf o ysgriflyfrau W. Lewes, Ysw., Llwynderw, ac achlyfr y Fairdref. Y mae sylwadau Mr. Jones, ac wrthynt S. J., yn dangos ei fod yn gyfarwydd â hanos ei wlad. O'r llyfr hwn y cafodd Dr. Meyrick achau y sir at ei History of Cardiganshire. Yr oedd yn berchen tir ei hun, ac yn wr cyfoethog. Wyr iddo yw Mr. J. S. Jones, masnachwr, Llandyssul.

JONES, THEOPHILUS, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nhregaron, oedd fab Evan Jones, Rhyd yr Efail, Lledrod. Ganed ef yn 1762. Yr oedd ei dad yn un o'r cynghorwyr cyntaf ym mhlith y Trefnyddion yn y Deheudir. Yr oedd Theophilus Jones yn gefnder i'r Parch. John Williams, olynydd Edward Richard yn ysgol Ystrad Meirig; ac efe a gafodd ei anfon ato i'r ysgol enwog hòno. Parhaodd yno am flynyddau. Dywedir i'w gefnder haeddbarch roddi iddo annogaeth i fyned yn offeiriad, ac ef allai i hyny fod ar ei feddwl yntau; ond ar yr amser hwnw daeth diwygiad i blith y Trefnyddion yn Lledrod, ac felly efe a ymunodd â hwy. Pan o gylch ugain oed, efe a aeth i Athrofa Arglwyddes Huntington, yr hon a gynnelid yr amser hwnw yn Nhrefecca. Dechreuodd ei weinidogaeth gyhoeddus yn Lledrod, pan tua thair ar hugain oed, a pharhaodd bregethu o ddeutu pedair a deugain o flynyddau. Yn 1806, priododd Ann, merch Edward ac Ann Davies, Rhydlwyd, Lledrod, a bu iddynt naw o blant. Symmudodd i Dregaron. Yr oedd Theophilus Jones yn ysgolor rhagorol - yn dra hyddysg mewn Groeg a Lladin. Yr oedd hefyd yn bregethwr gwreiddiol a rhagorol. Yr oedd braidd yn gymmeriad arbenig ym mhob ystyr. Yr oedd yn llawn arabedd tarawiadol yn y pulpud, fel yn ei ymddyddan cyffredin. Nid oedd ei sefyllfa fydol yn deilwng o'i ysbryd boneddigaidd; ac nid oedd ei iechyd chwaith ond gwanllyd drwy ei oes, ac yr oedd yn agored i lawer o wendid ysbryd. Byddai yn teimlo yn ddwys oddi wrth oerfel y gauaf, ac felly byddai yn arfer gweddïo am dywydd sych i gael y mawn yn ddiogel o'r Gors Goch. Dywedai y sawl oedd yn ei adnabod yn dda, ei fod yn fwy