Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na dengwaith cymmaint fel ysgolor a phregethwr na llawer up hunanol ag oedd yn byw ar ei lais, ac yn tybied ei hun yn fawr. Aeth yn y flwyddyn 1820, at Esgob Ty Ddewi i Abergwili, i geisio ganddo ei urddo yn offeiriad; ond gwedi gofyn ei oed, atebodd, “You are too old.” Teimlodd yn rhyfeddol am hyny; a phan yn pregethu ym mhen blynyddau yng Nghaerfyrddin, cymbellai bechaduriaid i droi at Grist, gan gyfeirio at yr oedranuis, gan ddywedyd, "Mae Iesu Grist yn derbyn pwy bynag a ddel, ië, yr hen bechadur tlawd. Nid yw efe ddim fel eich hesgob chwi yma yn dywedyd, "You are too old." Bu yn gyfyng iawn arno yn llys ei enwad o herwydd cynnyg ei hun i'r esgob; ond o blegid eiriolaeth a ffyddlondeb ei gyfaill, y Parch. Eben. Richard, cafodd faddeuant. Wedi ei hir guro gan lesgedd, efe a fu farw Mai 29, 1829, yn 67 oed. Ceir erthygl faith arno yn yr ail gyfrol o'r Traethodydd.

JONES, THOMAS, neu Twm Sion Cati, ydoedd enedigol o Borth y Ffynoon, ger Tregaron. Y mae traddodiad am dano ei fod yn ysbeiliwr penffordd, ac yn enwog am ei holl gampau drygionus pan yn ieuanc, ac y mae llawer o draddodiadau rhyfeddol am dano yn y wlad hyd heddyw; mewn gair y mae enw "Twm Sion Cati" yn deuluaidd ym mhob ty yng Ngheredigion. Cyhoeddodd y diweddar Llywelyn Prichard gyfrol o'r enw Adventures of Twm SionCati. Nid oes modd traethu yn iawn pa faint o wirionedd sydd yn y traddodiadau; ond y mae un cysur gwerthfawr, iddo newid ei fywyd, a daeth yn ddyn rhyfeddol ei barch yn ei wlad. Yr oedd Thomas Jones yn hanesydd Cymreig ardderchog, yn gystal a bardd. Mae yr enwog Dr. Sion Dafydd Rhys, yn rhoddi clod uchel iddo yn ei Ramadeg Lladin a Chymraeg, argraffedig yn 1592 :-

"RHYWIEU CERDDORION

"Pribhardh
"Posbhardh

"Arwydhbhardh. Pwy bynac a dhwetto 'i phod yn Arwydhbardh. gwybydhed achoed, Brenhinoedh a' Thywysogion a'r chybharwydbwyd oddiwrth y Tri Phribbardh Ynys Prydain nid amgen, Myrdhin ab Morbhrynn a' Merdhin