Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnt i'w dad. Dechreuodd ei dalentau rhagorol ddysgleirio ym mhell tu hwnt i neb ag oeddynt wedi cael eu haddysgu fel meddygon, yn enwedig mewn cyweirio aelodau. Mae yn ffaith wirioneddol ag y gall cannoedd yn y wlad yn awr ddwyn tystiolaeth, i ugeiniau, a channoedd lawer hefyd, ddyfod i'r Neuadd Fawr mewn cerbydau a cheirt yn hollol analluog i symmud mewn un modd, o herwydd tori esgyrn neu ddadgymmalu aelodau; a chyn dychwelyd, yn alluog i gerdded. Hwyrach y gall rhywrai na chlywsant son am ei fedr rhyfeddol wawdio a diystyru hyn; ond y maent yn wirioneddau bob gair o honynt. Nid yn unig efe a wellaodd lawer tlawd anafus oddi wrth ei ddolur corfforol, ond hefyd gwellaodd lawer yn eu hamgylchiadau â'i haelfrydedd.

Yr oedd yn elynol iawn i bob math o goegni a hunanoldeb. Os deuai ambell un hunanol at ei ddrws i ymofyn ei gynnorthwy meddygol, tebyg y cawsai bob amser ei erlid ffwrdd gyda dirmyg. Buasai yn rhaid traethu y neges wrtho mewn byr eiriau yn eglur a gostyngedig, heb o'r tu arall ddangos rhyw waseidd-dra gormodol; a buasai yn fynych yn cyflawnu ei waith ar gymmalau allan o'u lle gyda'r fath ddeheurwydd a chyflymdra disymmwth, fel na buasai y dyoddefydd yn meddwl ei fod yn myned at y gorchwyl, nes y buasai yn teimlo y loes, a'r cymmal wedi dyfod i'w le mewn amrantiad! Byddai ar ol hyn yn cael pleser mawr i adrodd i'r dyoddefydd, a holi rhyw banesion o'i gymmydogaeth. Os gofynai rhywun iddo beth oedd am y gwaith, buasai yn hen bryd iddo adael y palas pan yn dyferu y gair olaf dros ei fin. Pan fuasai y boneddwr yn gorphen ei holiadau, buasai yn amser i dderbyniwr y gymmwynas ymadael, gan ddymuno bendith iddo am ei waith. Yr oedd yn foneddwr cyfoethog, yn werth ef allai tua dwy fil y flwyddyn; ac yn y sefyllfa hon, yr oedd yn hael iawn at lawer o achosion. Yr oedd yn rhyfeddol am ei ysbryd tangnefeddus; a llawer gwaith, yn ei ffordd neillduol ei hun, y llwyddodd i adferu beddwch rhwng cymmydogion. Yr oedd yn rhyfeddol o dirion charedig i'w ddeiliaid, a gwir ewyllys ei galon ydoedd eu gweled yn llwyddo yn y byd. Bu farw lonawr 29, 1847.